ADY
Mae Ysgol Glan Clwyd yn ysgol gynhwysol ac rydym wedi ymrwymo’n llwyr i symud rhwystrau i ddysgu a sicrhau bod pob dysgwr yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen i allu cyfranogi’n llawn ym mywyd yr ysgol a chyflawni ei botensial.
Rydym yn gwerthfawrogi bod pob dysgwr yn unigolyn ac felly byddwn yn rhoi sylw i’w hanghenion amrywiol mewn modd sensitif ac effeithiol. Y nod yw sicrhau bod pob dysgwr yn cael mynediad i gwriclwm eang a chytbwys sydd wedi ei wahaniaethu. Mae pob athro yn athro i bob disgybl gan gynnwys y rhai sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Mae’r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei gydlynu gan Ms Eleri Jones (Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol). Bydd yn trefnu bod disgyblion sydd angen cefnogaeth ychwanegol yn eu gwersi yn cael eu cefnogi gan aelod o’r tim o Gymorthyddion Addysgu. Mae aelodau o’r tim yma hefyd yn darparu ymyraethau un i un a grŵp i ddatblygu sgiliau llythrennedd dysgwyr eraill fyddai’n elwa o dderbyn cymorth dros dro .
Trefnir bod dysgwyr sydd angen cefnogaeth ar gyfer anawsterau cymdeithasol, emosiynol, ymddygiadol neu feddygol yn cael eu cefnogi gan un o’r Swyddogion Lles a Chynhwysiant neu’r Swyddog Lles a Chymorth Emosiynol.
Rydym yn cefnogi athrawon a rheini i adnabod a diwallu anghenion pob plentyn ac yn gweithio’n agos ag asiantaethau allanol i adnabod Anghenion Dysgu Ychwanegol a gosod darpariaeth yn ei lle i gwrdd â’r anghenion. Byddwn yn cydweithio’n agos gyda’r ysgolion cynradd i sicrhau trosglwyddo effeithiol ar gyfer ein dysgwyr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am y ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn yr ysgol, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni ar 01745 582611 neu ebost eleri.jones@ysgolglanclwyd.cymru.
Mae system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd yn cael ei chyflwyno yng Nghymru. Mae’r dolenni isod yn cyflwyno gwybodaeth am y system hon.
https://www.denbighshire.gov.uk/cy/addysg-ac-ysgolion/anghenion-dysgu-ychwanegol/trosolwg.aspx
https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-06/taflen-ffeithiau-ady-sut-bydd-y-ddeddf-yn-effeithio-ar-blant-pobl-ifanc-a-rhieni-gofalwyr.pdf
Mae SNAP Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i rieni, plant a phobl ifanc sydd ag, neu a allai fod ag, anghenion addysgu ychwanegol –https://www.snapcymru.org/