Asesu

Pwrpas asesu yn Ysgol Glan Clwyd yw sicrhau gwybodaeth am yr hyn all disgybl wneud ac adnabod y camau nesaf o ran ei gynnydd. Gelwir hyn yn Asesu ar gyfer dysgu. Fel rhan o hyn, gosodir Bwriad Dysgu a Meini Prawf Llwyddiant ar gyfer tasgau fel bod disgyblion yn adnabod y disgwyliadau o ran ei gwaith. Bydd gwaith yn cael ei asesu gan ddefnyddio label “Llwyddais i… a Gorau i gyd…” Bydd y sylwadau hyn yn galluogi’r disgybl i adnabod ei gryfderau a’r hyn sydd angen ei wella cyn symud ymlaen i gywiro a ‘Llnau’ ei waith. Bydd defnydd o adborth llafar, hunan asesu ac asesu cyfoed hefyd yn rhan annatod o’r asesu a wneir.

Bydd rhai tasgau yn cael eu hasesu yn grynodol er mwyn gosod gradd cyflawniad yn enwedig ym Mlwyddyn 10, 11, 12 a 13. Defnyddir graddau A* – G i wneud hynny.  Mae canllawiau’r bwrdd arholi a manylebau pynciol yn nodi faint o adborth sy’n dderbyniol mewn rhai achosion yn arbennig wrth gyflwyno asesiadau dan reolaeth.

Bydd disgyblion CA4 a CA5 yn derbyn adroddiad am eu cynnydd 4 gwaith y flwyddyn ble nodir graddau targed, gradd ymdrech 1-5 a gradd cyflawniad. Bydd hyn yn ein galluogi i fentora’r disgyblion er mwyn sicrhau adnabod pa gamau sydd angen eu cynllunio i sicrhau eu bod yn cyflawni eu potensial.

Ar gyfer Blwyddyn 9 2017-18 mae disgyblion yn derbyn gradd ymdrech a lefel Cwricwlwm Cenedlaethol.

Mae Blwyddyn 7 ac 8 yn derbyn gradd ymdrech, gradd ymroddiad i wella a gradd cyrhaeddiad A* – G

Nid yw’r disgybl wedi ymateb i’r adborth o gwbl er iddo gael ei gymell i wneud hynny. Mae wedi ymateb heb ymgais gwirioneddol i wella (ail-adrodd camgymeriadau, ail-gopio). Nid yw’r disgybl wedi manteisio ar y cyfnod Ll’nau er mwyn gwneud cynnydd. Felly, mae’r cynnydd yn anfoddhaol.
Ymatebodd y disgybl i’r adborth gydag ymdrech i wella rhai agweddau o’r gwaith. Cymerodd fantais o’r cyfnod Ll’nau gan wneud cynnydd digonol; mae’r cryfderau yn gorbwyso’r gwendidau.
Ymatebodd y disgybl yn llawn i’r adborth gyda’r ymdrech i wella’r gwaith yn arwyddocaol. Cymerodd fantais llawn o’r cyfnod Ll’nau gan wneud cynnydd da. O bosib, mae dal man agweddau angen eu gwella.