Enwebwyd Miss Alaw Jones gan ddwy o ddisgyblion yr ysgol am y wobr “athrawes yr wythnos” gyda Sound Radio Wales.  Daeth Alex Hudson o Sound Radio Wales i’r ysgol i roi sypreis i Miss Jones. Cyflwynwyd tysytysgrif iddi gan Alexa Taylor 7E a Maddison Taylor 9Y.  Bydd yn cael ei ddarlledu ar y radio am 3pm Dydd Gwener 2.2.18, a thrwy’r wythnos ganlynol.