Canlyniadau 2020
Mae diwrnodau canlyniadau eleni ar y ddau ddydd Iau canlynol:
- Awst 13eg – canlyniadau Uwch Gyfrannol ac Uwch
- Awst 20fed – Canlyniadau TGAU
Er y pryderon am y Coronafeirws rydym yn awyddus iawn i groesawu y myfyrwyr yn bersonol yn yr ysgol, i longyfarch ac i drafod y dyfodol. Ond eleni, yn amlwg, bydd yn rhaid i ni drefnu’r diwrnod yn wahanol gan roi sylw i ragofalon iechyd a diogelwch. Gyrrwyd llythyr at holl rieni ein myfyrwyr arholiadau ym mis Gorffennaf yn amlinellu’r trefniadau. Ceir copi o’r llythyr yma:
Gofynnwn yn garedig eich bod yn cadw at y cyfarwyddiadau canlynol:
- Sicrhau fod eich plentyn yn iach ac heb symptomau COVID 19.
- Cyrraedd yn brydlon ( heb fod yn gynnar) ar gyfer eich slot amser penodol.
- Gofynnwn i rieni aros yn eu ceir gan adael i’r disgybl yn unig fynd i’r adeilad.
- Mewn achos lle mae ‘ciw’ yn ffurfio y tu allan disgwylir i’r disgyblion gadw pellter o 2m gan sefyll ar y marciau dynodedig ar y llawr.
Cyn cael mynediad llawn i’r adeilad mi fydd gofyn cymryd tymheredd eich plentyn. Mewn achos lle mae tymheredd y disgybl yn bryder gofynnir iddo ddychwelyd i’r car a derbyn y canlyniadau dros y ffôn gan aelod o staff.
Mi fydd eich plentyn yn dilyn system un-ffordd drwy’r adeilad ac mi fydd pellter o ddwy fetr yn cael ei gadw yn barhaus.
Mewn achos lle mae angen cefnogaeth a chyngor yn dilyn derbyn graddau mi fydd tîm arbenigol ar gael i gefnogi’r disgybl yn y fan ar lle. Bydd modd yn ogystal i rieni /gwarcheidwaid wneud trefniant pellach am sgwrs gydag aelod o’r tîm cefnogi drwy gysylltu ar rif ffôn yr ysgol a threfnu sgwrs ar ôl 12.00yp
Rydym yn ymwybodol fod yr holl amgylchiadau eleni yn wahanol, ond rydym yn awyddus i sicrhau nad yw’r profiad yn cael i ddibrisio a’n bod yma i’ch cefnogi a’ch llongyfarch ar hyd y daith.
Bydd yr ysgol hefyd ar gael i egluro unrhyw ymholiadau gan fyfyrwyr a rhieni.
Edrychwn ymlaen fel ysgol at groesawu ein myfyrwyr arholiadau yn ôl atom yn ystod y bythefnos nesaf.