Gweithgareddau Allgyrsiol

Er pwysiced ein cwricwlwm ffurfiol, yma yn Ysgol Glan Clwyd rydym yn credu’n gryf mewn cynnig arlwy allgyrsiol gyfoethog ac amrywiol.  Felly er mwyn ehangu gorwelion a datblygu’n dysgwyr yn unigolion crwn, uchelgeisiol ac eangfrydig cynigiwn ddarpariaeth ychwanegol eang y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Mae arlwy allgyrsiol gyfoethog yn hanfodol i ni am amryfal resymau, ond yn sicr mae’n cyfrannu’n helaeth er mwyn:

  • hyrwyddo’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun llai ffurfiol.
  • dyfnhau profiad dysgwyr ac ehangu eu gorwelion.
  • sicrhau cydbwysedd gwell mewn bywyd tuag at ein nod o feithrin dysgwyr iach o gorff ac iach o feddwl.

Dyma flas yn unig o rai o’r meysydd allgyrsiol allweddol i ni:

  • Chwaraeon o bob math, fel timau ac fel unigolion.
  • Profiadau lu o ran y celfyddydau mynegiannol gan hybu’r elfen perfformio yn arbennig o ran Cerdd a Drama.
  •  Gweithgareddau’r Urdd yn eu holl amrywiaeth.
  • Profiadau celfyddydol, diwylliannol a llenyddol amrywiol eraill.
  • Teithiau addysgol amrywiol – yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
  • Profiadau a chystadlaethau STEM o bwys.