Cwricwlwm
Ein prif flaenoriaeth yn Ysgol Glan Clwyd yw sicrhau’r profiadau a’r deilliannau gorau posib ar gyfer pob disgybl. Ein nod yw creu dysgwyr chwilfrydig, brwdfrydig a blaengar sydd â’r gallu i ymdopi â sialensau’r byd o’u cwmpas fel dysgwyr gydol oes effeithiol. Trwy gynnig profiadau amrywiol a chyfoethog bydd disgyblion yn esblygu i fod yn ddysgwyr gwydn, dyfeisgar, cytbwys a myfyrgar.
Yn naturiol, rydym yn paratoi ar hyn o bryd ar gyfer y Cwricwlwm Newydd i Gymru. Cyfnod cyffrous tu hwnt sydd yn caniatau i ni weithio yn agos gyda’n clwstwr o ysgolion cynradd er mwyn sicrhau fod y profiadau yn gyd-lynus ac yn adeiladu ar gynnydd pob plentyn.
Blwyddyn 7
Wrth i Flwyddyn 7 ddechrau yn Ysgol Glan Clwyd mi fyddan nhw yn cael profiadau dysgu cyffrous a dysfeisgar fydd yn datblygu eu chwilfrydedd tuag at eu dysgu gan adeiladu ar y profiadau a gafwyd yn eu hysgolion cynradd. Dylunir y profiadau a’r deilliannau hyn er mwyn eu paratoi ar gyfer astudio’n effeithiol ym Mlwyddyn 10 ac 11 a pharhau i fod yn ddysgwyr gydol oes.
Rhoddir sylw mawr i’r medrau holl bwysig Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol ynghyd a’r sgiliau ehangach sef Meddwl yn Feirniadol, Creadigrwydd ac Arloesedd, Datrys Problemau, Cynllunio a Threfnu ac Effeithiolrwydd Personol. Rhoddir cyfleoedd i ddatblygu gwydnwch, dyfeisgarwch, sgiliau cydweithio a myfyrgarwch er mwyn gwella gallu disgyblion i fod yn ddysgwyr hyderus a medrus.
Pwnc | Oriau dros bythefnos |
---|---|
Cymraeg | 7 |
Saesneg | 7 |
ITM | 3 |
Mathemateg | 7 |
Gwyddoniaeth | 5 |
Technoleg | 2 |
Dyniaethau | 4 |
Addysg Gorfforol | 3 |
Moeseg | 1 |
Cerdd | 2 |
Celf | 2 |
Drama | 2 |
Digi-fi | 1 |
Blaguro | 4 |
Cyhoeddir Rhaglenni Dysgu ar gyfer y Meysydd Dysgu yma. Byddant yn cyfeirio at ba waith fydd yn cael ei gyflawni a’i asesu, pa waith cartref a osodir ac os oes unrhyw brofion.
Blwyddyn 8
Rydym yn awyddus i gyfoethogi profiadau Blwyddyn 8 gan addasu’r cynllun cwricwlaidd ar eu cyfer er mwyn datblygu eu profiadau a deilliannau a’u datblygu yn ddysgwyr hyderus a medrus a fydd yn barod i gamu ymlaen ym Mlwyddyn 9 i lunio dewis doeth ar gyfer eu cyrsiau TGAU.
Pwnc | Oriau dros bythefnos |
---|---|
Cymraeg | 7 |
Saesneg | 7 |
ITM | 3 |
Mathemateg | 7 |
Gwyddoniaeth | 5 |
Technoleg | 4 |
Dyniaethau | 4 |
Addysg Gorfforol | 4 |
Moeseg | 2 |
Cerdd | 2 |
Celf | 2 |
Drama | 2 |
Digi-Fi | 1 |
Blwyddyn 9
Er mwyn cyfoethogi profiadau Blwyddyn 9 rydym am gynnig cyfle iddynt ddechrau astudio Cwrs Bagloriaeth Cymru yn ystod Blwyddyn 9 gan ganolbwyntio ar Her Gymunedol. Bydd hyn yn arwain at ennill cymhwyster ar ddiwedd Blwyddyn 11.
CA4
Bydd disgyblion blwyddyn 10 yn astudio pynciau craidd sef
- Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth,
- Saesneg Iaith a Llenyddiaeth,
- Mathemateg a Rhifedd
- Gwyddoniaeth Ddwyradd
- Bagloriaeth Cymru
Yn ogystal mae 3 pwnc dewisol
Blwyddyn 12-13
Mae sicrhau’r addysg orau drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer ein myfyrwyr chweched dosbarth yn allweddol i ni fel ysgol. Mae amrediad eang o gyrsiau posib gweler y Prosebectws ôl-16 sydd ar y wefan hon.