Covid-19
Mae’r dudalen hon yn fan canolog ar gyfer yr holl wybodaeth sy’n ymwneud â materion gweithredol yr ysgol yn ystod y cyfnod digynsail hwn . Rydym yn deall lefel y pryder y mae’r mater cenedlaethol hwn wedi’i greu o fewn ysgolion a’r gymuned leol ac roeddem am eich sicrhau chi ein bod yn dilyn y cyngor a’r arweiniad diweddaraf.
Gobeithiwn y bydd pryderon neu gwestiynau rhieni a disgyblion yn cael eu hateb yn y dogfennau hyn.
Cysylltwch â ni dros y ffôn neu e-bost os oes gennych gwestiynau o hyd.
Dysgu Cyfunol
Yn Ysgol Glan Clwyd, credwn fod cyfathrebu yn allweddol, ac felly mae’r wefan hon wedi’i chreu fel dull o gefnogaeth i rieni / gofalwyr a disgyblion yn ystod cyfnodau o ddysgu o bell. Yn gynwysedig mae llawer o fideos, dogfennau ac awgrymiadau defnyddiol i’ch tywys trwy’r hyn sy’n ymddangos fel y cwestiynau / anawsterau mwyaf cyffredin. Bydd y wefan yn cael ei diweddaru yn ôl yr angen. Gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i chi.
Canllawiau
Rydym ni wedi creu pecyn gwybodaeth i chi gan fawr obeithio ei fod yn rhoi sicrwydd i chi ac yn ateb cymaint o gwestiynau â phosib.
Er hwylustod i chi hefyd dyma gopïau o rai o’n dogfennau cyfathrebu diweddaraf â rhieni.