Diogelwch Disgyblion

Mae Ysgol Glan Clwyd wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc yn gorfforol ac emosiynol. Cyflawnir hyn gan greu diwylliant diogel, sy’n addysgu disgyblion ar sut i gadw’n ddiogel ac i adnabod ymddygiad annerbyniol. Bydd yr ysgol yn adnabod ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer plant sydd wedi bod yn agored i broblemau diogelu, gan sicrhau bod aelodau o’r corff llywodraethol, y Pennaeth ac aelodau o’r staff yn deall eu cyfrifoldeb, o dan ddeddfwriaeth diogelu a chanllawiau statudol, i fod yn effro i arwyddion o gam-drin plant a chyfeirio pryderon i’r Swyddog Diogelu ac Amddiffyn Plant Dynodedig. Mae’r ysgol hon wedi ymrwymo i sicrhau bod y Pennaeth ac unrhyw aelodau newydd o staff a gwirfoddolwyr yn rhannu’r ymrwymiad trwy sicrhau bod y gwiriadau addas wedi’u cwblhau cyn eu penodi.

Mr Ian Roberts (Pennaeth Cynorthwyol) yw’r Swyddog Diogelu ac Amddiffyn Plant Dynodedig. Pe bai’r Swyddog Diogelu ac Amddiffyn Plant Dynodedig yn absennol bydd materion yn cael eu trafod gyda Mr John Evans (Pennaeth Cynorthwyol) neu’r Mrs Catherine Jones.

Mae’r ysgol yn codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n gallu effeithio ar agweddau o fywyd plentyn trwy gynnwys deunydd perthnasol yn y cwricwlwm a gwasanaethau.