Blog Y Pennaeth

Diolch!

Fel mae byd natur yn aml yn gorfod addasu’n naturiol mewn cyfnod o argyfwng – yn dysgu ffyrdd gwahanol o weithredu a goroesi – mae’n cymdeithas ni’n awr yn newid ac yn addasu yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng byd eang.

Gwn fod cynifer o feysydd a galwedigaethau yn newid ac yn gweithredu’n greadigol ac yn hyblyg ar hyn o bryd, ond hoffwn yn y blog hwn ganolbwyntio ar y maes mwyaf perthnasol i mi. Fel arweinydd ysgol o fewn y system yng Nghymru hoffwn ddatgan fy malchder ynglŷn â’r ffordd mae ysgolion wedi addasu’n llwyr mewn cyfnod byr, gyda’r staff anhygoel o fewn yr ysgolion hynny’n gweithredu mewn ffyrdd cwbl newydd, a hynny dros nos.

Mae ysgolion o fod yn ganolbwynt cymdeithasol bywyd pob plentyn wedi newid i fod yn llwyfannau sy’n cynnig cefnogaeth addysgol yn ddigidol ac yn hyblyg. Mae’r ysgolion drachefn yn parhau i gefnogi’r dysgwyr a’r teuluoedd  bregus mewn amryfal ffyrdd. Mae’r system addysg yma yng Nghymru drachefn yn sicrhau fod pob dysgwr sydd â’r hawl i bryd ysgol di-dâl yn parhau i ddarparu’r gefnogaeth honno, gan gynnwys yn ystod gwyliau arferol ysgol.

Mae’r system addysg uwchradd yma yng Nghymru hefyd yn ddygn ac yn drefnus yn wynebu’r her o oresgyn y broblem o dymor arholiadau yn cael ei ddiddymu. Fel arweinydd addysgol o fewn y cyfnod hwn rwy’n argyhoeddedig y bydd popeth yn cael ei wneud yn ystod y misoedd nesaf i sicrhau fod pob dysgwr o fewn y drefn arholiadau yma yn cael perffaith chwarae teg yr haf hwn.  Rydym ninnau yn Ysgol Glan Clwyd, fel ym mhob ysgol arall ar draws y wlad, yn ceisio cyflwyno gwybodaeth bwysig yn fanwl ac yn gytbwys i ddysgwyr a rhieni, gan geisio cefnogi a thawelu pryderon yr un pryd.

Yn ychwanegol at hynny wrth gwrs mae ysgolion erbyn hyn ar draws Cymru yn agored i gefnogi gofal a chefnogaeth i blant gweithwyr allweddol, a hynny trwy gydol yr hyn a fyddai’n wyliau Pasg yn arferol. Dyma ddyletswydd allweddol er mwyn sicrhau fod y gwasanaethau hanfodol, a’r system yn genedlaethol, yn parhau i weithredu’n effeithiol. Hoffwn nodi eto fy mod yn falch o’r modd y mae’r system addysg wedi ymdaflu i’r cyfrifoldebau a’r heriau  newydd hyn.

Bûm i ddoe ar ddyletswydd yn Ysgol y Llys ym Mhrestatyn, yn chwarae fy rhan yn cefnogi’r hwb hwnnw i gefnogi dysgwyr y clwstwr. Roedd asbri a phositifrwydd yn y gefnogaeth a roddwyd i’r plant a ddaeth yno – a’r cwbl mewn amgylchedd gofalus a diogel. Mae Ysgol y Llys yn un o dair ysgol hwb ar draws Clwstwr Ysgol Glan Clwyd, ynghyd ag Ysgol Twm o’r Nant ac Ysgol Dewi Sant, a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r gwaith rhagorol a wneir yn y tri hwb gan staff ymroddedig a hyblyg yr holl ysgolion yn y clwstwr.   Ond mae’r gwaith clodwiw hwn a welaf i o fewn ysgolion ein clwstwr ni, yn cael ei ailadrodd ar draws clystyrau ac ysgolion Sir Ddinbych, ac ymhellach na hynny ar draws ysgolion Cymru.   Diolch o galon i bawb am y gwaith a’r dycnwch hwn, mewn cyfnod mor ddyrys.

Yr hyn sy’n drawiadol am yr ymgyrch newydd genedlaethol hon yw’r undod yn y nod, er gwaethaf yr amrywiaeth yn ein cefndiroedd. Mae’r timau hyn o staff sy’n cefnogi yn ein hysgolion ar hyn o bryd, gan gynnig gofal a chefnogaeth yn dimau cymysg iawn o staff – yn staff gweinyddol, yn staff cefnogi ac yn staff addysgu. Mae’r sectorau cynradd ac uwchradd gyda’i gilydd yn y frwydr hon hefyd ac yn rhannu arbenigedd a brwdfrydedd. Mae hyn oll yn digwydd yn awr gan fod gennym y nod cyffredin o geisio goresgyn yr aflwydd hwn – a gwireddu’r wireb a welaf yn aml ar bosteri gobeithiol plant y wlad – ‘Fe ddaw haul ar fryn’.

Mae ysgolion erbyn hyn hefyd yn rhan o ymgyrchoedd i gefnogi ysbytai a byrddau iechyd, gan gynnwys darparu offer diogelu personol (PPE). Ein braint ni yn Ysgol Glan Clwyd oedd gallu cyfrannu dros 120 o sbectolau diogelwch i Ysbyty Glan Clwyd a braf oedd gweld y llun ar trydar o staff uned cardiaidd yr ysbyty – pob un yn defnyddio ein hoffer ni. Mae Adran Dylunio a Thechnoleg yr ysgol hefyd, fel cynifer o ysgolion eraill yr ardal, yn defnyddio’r peiriannau 3D i gynhyrchu masgiau diogelu. Mae hi’n fraint i fod yn rhan o’r ymgyrch hon – a gobeithiaf yn wir pan fydd yr haint hwn wedi cilio o’r tir, y bydd yr ysbryd hwn a’r egwyddorion hyn yn parhau.

Felly, yn ystod y gwyliau Pasg arferol, hoffwn ddiolch i bawb o fewn ein system addysg am eu hyblygrwydd a’u positifrwydd.  Gyda’n gilydd fe ddown drwy’r helbul hwn yn gryfach – fe ddaw haul ar fryn! 

Byddwch gyfrifol, byddwch ddiogel. 

Gwyn Tudur
Pennaeth

Ysgol y Llys, Prestatyn

Staff Ysbyty Glan Clwyd.  Diolch