Eiddo Coll
Nid yw’r ysgol yn atebol am golled neu ddifrod i eiddo personol disgyblion heb fod yr eitem(au) wedi eu rhoi yn benodol i aelod o staff, sydd wedi derbyn cyfrifoldeb am ofalu am yr eitem(au).
Er mwyn lleihau’r posibilrwydd o golli eiddo
- Rydym yn annog disgyblion a’u rhieni i sicrhau enwau ar bob dilledyn a chyfarpar, er mwyn dychwelyd eiddo coll i’r perchennog cyn gynted â phosib. Bydd unrhyw eitemau sydd wedi eu darganfod yn cael eu cadw yn yr adran Addysg Gorfforol neu stordy diogel yn yr Hwb. Os oes label ar yr eitem bydd cofnod ar Sims (System Gofrestru’r Ysgol) er mwyn hysbysebu’r perchennog bod angen ei gasglu.
- Does gan yr ysgol ddim loceri, felly mae angen i ddisgyblion sicrhau bod eu heiddo personol yn cael eu cadw’n ddiogel, gan gynnwys blaser, bagiau ysgol a bagiau Addysg Gorfforol.
- Cyfrifoldeb y disgyblion yw eu gwisg ysgol yn ystod eu gwersi Addysg Gorfforol. Mae rhaid i’r disgyblion sicrhau bod ganddynt eu holl eiddo cyn gadael yr ystafell newid a rhoi gwybod am unrhyw eitem(au) coll i aelod o’r staff Addysg Gorfforol ar unwaith.
- Gofynnir wrth ddisgyblion am beidio dod ag eiddo gwerthfawr neu lawer o arian i’r ysgol.
- Ni ddylid gadael arian ac eitemau gwerthfawr heb ofal mewn ystafelloedd dosbarth, bagiau neu o amgylch safle’r ysgol.
Ni fydd glanhawyr, fel arfer, yn symud eitemau o ddillad neu fagiau sydd wedi eu gadael yn yr ystafell ddosbarth. Yn gyntaf, ar ôl colli eitem(au) dylai disgyblion ail-ymweld â’r ardaloedd perthnasol.
Bydd eitemau gwerthfawr megis ffonau, allweddau, ayyb yn cael eu cadw yn yr Hwb.
Bydd dillad a chyfarpar chwaraeon coll yn cael eu rhoi i aelod o’r adran Addysg Gorfforol. Dylai disgyblion gasglu’r eitemau gan aelod o’r staff Addysg Gorfforol.
Bydd pob eitem o eiddo coll sy’n dod i’r Hwb yn cael ei gofnodi, mae croeso i rieni gysylltu gyda’r ysgol er mwyn holi am eitem o eiddo coll sydd wedi ei gofnodi.
Bydd Mrs Annwen Roberts ar gael yn yr Hwb er mwyn cynorthwyo disgyblion i ddod o hyd i’w heiddo coll. Mae croeso i rieni/warchodwyr sydd yn pryderu am unrhyw eitemau coll gysylltu gyda Mrs Annwen Roberts er mwyn holi am eiddo coll.
Bydd yr ysgol yn rhoi pob eitem o eiddo coll sydd heb enw neu heb ei hawlio ar ddiwedd pob tymor i elusennau, ac eithrio eitemau gwerthfawr, a fydd yn cael eu cadw yn yr Hwb am y flwyddyn academaidd.
Cyfrifoldeb y disgybl yw eu llyfrau a chyfarpar ysgol. Cyfrifoldeb y disgybl yw dod o hyd i lyfrau a chyfarpar newydd os ydynt ar goll.
SICRHEWCH BOD ENW LLAWN EICH PLENTYN AR Y DILLAD.