Estyn

Dyma gopi o’n hadroddiad Estyn diweddaraf gynhaliwyd yn nhymor yr haf 2022.

“Mae Ysgol Uwchradd Glan Clwyd yn gymuned ofalgar a chynhwysol lle mae lles y disgyblion yn flaenoriaeth allweddol. Mae staff yn diwallu anghenion emosiynol, iechyd a chymdeithasol disgyblion yn ogystal â chynnig arweiniad clir iddynt ar hyd eu taith yn yr ysgol.”

“Mae lle blaenllaw i lais y disgybl yng nghymuned Ysgol Uwchradd Glan Clwyd. Mae cyfraniadau’r cyngor ysgol a’r amryw bwyllgorau yn werthfawr iawn i waith yr ysgol.”

“Yng nghyfnodau allweddol 4 ac yn y chweched dosbarth, ceir ystod eang o gyrsiau diddorol i ddisgyblion ddewis ohonynt gan gynnwys rhai sy’n gweddu i’r diwydiannau lleol. Mae arlwy eang iawn o brofiadau allgyrsiol gwerthfawr ar gael ar gyfer y disgyblion i gyfoethogi’u profiadau dysgu ymhellach.”

“Nodwedd arbennig o waith yr ysgol yw’r cynnydd cyflym a llwyddiannus a wna disgyblion sy’n trosglwyddo o addysg cyfrwng Saesneg yn hwyr yn eu medrau Cymraeg. Maent yn datblygu’n siaradwyr hyderus ac yn cynhyrchu gwaith ysgrifenedig estynedig sy’n eu galluogi i ymuno â’r prif lif yn gynnar yn eu bywyd ysgol.”

“Cryfder nodedig o fewn yr ysgol yw’r cynnydd wna’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn eu huwch fedrau digidol ar draws y cwricwlwm.”

“Mae’r ysgol yn cynnig cwricwlwm eang sy’n diwallu anghenion bron pob disgybl, yn ogystal â chyrsiau sy’n adlewyrchu gofynion y diwydiannau lleol”

 Er mwyn darllen ein hadroddiad yn llawn cliciwch isod: