Gofal, Lles a Chefnogaeth
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein dysgwyr i gael y dechrau gorau posib i’w bywydau a chreu profiadau cadarnhaol o addysg uwchradd.
Ein prif amcan yw diogelu pobl ifanc a hyrwyddo ac amddiffyn eu lles emosiynol a chymdeithasol. Credwn fod plentyn hapus yn llawer mwy tebygol o lwyddo a ffynnu.
Mae maethu iechyd meddwl da, ynghŷd â iechyd corfforol da yn cael ei ystyried flaenoriaeth yma yn Ysgol Glan Clwyd.
Rydym yn ymfalchio yn y gefnogaeth fugeiliol sydd yma yn Ysgol Glan Clwyd, ac yn hyderus bod y gefnogaeth bwrpasol yn ei le. Mae gennym drefn effeithiol o gyd-weithio efo asiantaethau allanol sydd yn ein cefnogi gydag ein dysgwyr, yn sicrhau bod pob plentyn yn derbyn yr un gefnogaeth.
Pwy yw Pwy?
Pennaeth Cynorthwyol sydd yn gyfrifol am oruchwylio’r holl waith cefnogi disgyblion a chyd-lynu cysylltiadau gydag asiantaethau allanol. Y Pennaeth Cynorthwyol yw swyddog diogelu plant yr ysgol.
Arweinwyr Cynnydd – Mae gan pob blwyddyn yn yr ysgol Arweinydd Cynnydd, prif ffocws yr arweinwyr cynnydd yw monitro a thracio cyrhaeddiad ac ymdrechion y dysgwyr sydd yn eu gofal. Yr arweinydd Cynnydd sydd yn gofalu am ochr academaidd datblygiad y disgyblion. Maent hefyd yn gyswllt cartref ar gyfer y disgyblion sydd yn eu gofal.
Mentoriaid Dysgu – Mae gan pob blwyddyn yn yr ysgol Fentor wedi ei gysylltu â hi. Prif ffocws y rôl yma yw cefnogi’r dysgwyr gydag unrhyw agwedd o fywyd yr hoffent gefnogaeth ag o. Maent yn anogwyr dysgu yn cefnogi gyda gwaith ysgol, ond, hefyd maent oll yn cefnogi lles y dysgwyr. Maent hefyd yn gyswllt cartref, ac yn cyd-weithio yn agos gyda’r arweinwyr cynnydd ac asiantaethau allanol.
Cyd-Lynydd ADY– Os oes gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol, mae’r Cyd-lynydd ADY yn gyfrifol am gefnogi a llunio cynllun datblygu unigol. Bydd yr CADY yn cyd-weithio yn agos efo rhieni ac asiantaethau allanol er mwyn sicrhau’r ddarpariaeth orau posib i’r dysgwyr. Mae disgyblion MAT hefyd yn derbyn ystyriaeth gan y CADY. Bydd cymorthyddion dosbarth yn cefnogi lle bo’n briodol ac addas.
Tiwtoriaid Dosbarth – Bydd pob plentyn yn mynychu cyfnod cofrestru am 20 munud pob bore gyda’u tiwtor dosbarth. Yma bydd perthnasau pwysig yn cael eu sefydlu a llawer iawn o waith cefnogi yn foesol, emosiynol ac yn academaidd yn digwydd.
Cyd-Lynydd ABCH – Mae pob disgybl yn derbyn Addysg Bersonol a Chymdeithasol, rôl y cyd-lynydd yw sicrhau bod cynnwys y gwersi yn bwrpasol ac yn cefnogi anghenion y cwricwlwm a disgyblion Ysgol Glan Clwyd.
Asiantaethau Allanol – Er mwyn sicrhau’r gefnogaeth o’r radd orau i’ch plentyn, byddwn yn cyd-weithio gydag amrywiaeth o asiantaethau allanol. Gall y rhain ein cefnogi ni a’r teuluoedd i ddelio efo sefyllfaoedd sydd yn codi yn y modd mwyaf priodol.