Gwisg Ysgol
Mae’r wisg yn chwarae rhan allweddol wrth gyfrannu at ethos ein hysgol.
Mae safon uchel ein gwisg ysgol yn cyd-fynd â’r syniad bod gwisg ysgol yn meithrin dysgu ac addysgu effeithiol oherwydd ei fod yn:
- Hybu balchder yn yr ysgol sy’n cyd-fynd gyda’n hethos.
- Ennyn ymdeimlad o gymuned ac o berthyn i’r ysgol
- Cefnogi ymddygiad cadarnhaol a disgyblaeth
- Adnabod disgyblion yr ysgol ac yn annog hunaniaeth o fewn yr ysgol
- Diogelu disgyblion rhag dylanwadau cymdeithasol.
- Ymdeimlad o gydraddoldeb rhwng cyfoedion yn nhermau edrychiad ac wrth feithrin undod rhwng gwahanol grwpiau o ddisgyblion.
- Sicrhau bod disgyblion o bob hil a chefndir yn teimlo’n gyfforddus.
Rôl y Rhieni
Rydym yn gofyn wrth rieni sy’n gyrru eu plant i’n hysgol gefnogi safonnau’r wisg ysgol. Credwn mai dyletswydd rhieni yw i yrru eu plant i’r ysgol mewn gwisg gywir a thaclus yn barod am eu diwrnod o waith yn yr ysgol.
Dylai disgyblion ddod â’r cyfarpar canlynol i’r ysgol bob dydd:
Gweler offer ar gyfer dysgu yn y llyfryn gwybodaeth i ddisgyblion blwyddyn 7
Eiddo Personol
Atgoffir rhieni a disgyblion nad oes yswyriant gan yr ysgol ar gyfer eiddo sydd wedi’i golli neu ddifrodi ar y safle. Mae eiddo personol sy’n dod i’r ysgol (gan gynnwys ffonau symudol, oriawr, gemwaith ac ati) yn gyfrifoldeb ar y disgyblion eu hunain i’w cadw’n ddiogel. Rydym yn rhybuddio disgyblion rhag dod â eitemau drud neu werthfawr i’r ysgol.