Pam 6ed Ysgol Glan Clwyd?

Bl 12/13 Ysgol Glan Clwyd – Yr unig le i lwyddo… Yr unig le i ddatblygu dy lawn botensial

Dyheadau gyrfaol a pham?

Wyt ti wedi ystyried y diffyg siaradwyr Cymraeg yn dy faes yrfa o ddewis?neu … Wyt ti wedi ystyried y posibiliadau gyrfaol sydd drwy gyfrwng y Gymraeg?

Mae dy gymwysterau Cymraeg o fantais amlwg i gyflogwyr ac yn cynnig graddfa cyflog uwch

Targed Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yn golygu y bydd rhaid i fusnesau ffafrio siaradwyr Cymraeg

Mwy a mwy o siroedd yn rhoi’r Gymraeg fel hanfodol ar swyddi o fewn yr awdurdodau

 

Dwi’n poeni y byddaf ar ei hol hi yn y Brifysgol ar gwrs drwy gyfrwng y Saesneg? Sut alla i fo dyn hyderus mewn cwrs Gwyddoniaeth neu Hanes drwy’r Saesneg a fi wedi gwneud pob dim drwy’r Gymraeg yn yr ysgol.

Yn syml, mae disgyblion Ysgol Glan Clwyd o bob cefndir ieithyddol wedi llwyddo mewn Prifysgolion cyfrwng Saesneg.

O fynd i ddinasoedd Prifysgol ym Mhrydain mi ffeindiwch eich bod yn rhan o gymuned aml-iaith, aml-ddiwylliant. Bydd y ffaith fod gennych chi ddwy iaith yn eich gwneud yn rhan annatod o’r gymuned hon.

Daw miloedd o fyfyrwyr o dramor i ddilyn cyrsiau cyfrwng Saesneg ym Mhrydain a  hynny ar ol iddyn nhw dderbyn eu haddysg mewn ieithoedd eraill.

Tystiolaeth ymchwil yn profi fod myfyrwyr dwyieithog yn dysgu ac yn datblygu meddyliau hyblyg sydd yn greadigol gryf.

Mae’r rhan fwyaf o wledydd yn y byd yn siarad mwy nag un iaith – dydy hyn ddim yn sefyllfa anarferol. Meddyliwch am Canada, De America, Awstralia

 

Pa bynciau wyt ti’n ystyried?

Lefel A yn apelgar wrth geisio am swyddi am ei fod yn dangos medrusrwydd ar draws sawl pwnc

Risg mewn dewis 1 pwnc yn y Coleg yn hytrach na 3 neu 4 pwnc yn yr Ysgol? Cadw dy ospiynau yn agored rhag ofn i sefyllfa newid

Canlyniadau Glan Clwyd yn gadarn ymhob pwnc yn arbennig wrth gymharu a cholegau

Pam Ysgol Glan Clwyd

Gofal staff a chefnogaeth yma

Braint o fod yn 6ed a Theulu YGC

Hawliau newydd a ffordd mae dysgwyr Iau yn dy weld

Buddsoddiad cyson mewn adnoddau ac ystafell 6ed ar gyfer Medi 2023 rydym yn cynllunio:

• Ail-frandio’r chweched dosbarth fel ardal benodol ar gyfer Myfyrwyr hyn yr ysgol. 

• Prynu dodrefn newydd i’r ystafell gyfredin

• Sicrhau adnoddau addas a chyfoes yn yr ystafell waith

• Datblygu gardd y 6ed fel; bod cysgodfan a mwy o adnoddau i fedru eistedd allan

• Bydd pawb yn debryn ffob fel yr athrawon i fynd i mewn ac allan oi’r adeilad

Ti’n adnabod staff

Mae staff yn dy adnabod di – maent yn gwybod faint y gallant dy anog/ wthio ymlaen!

Perthynas gyda staff yn datblygu/ addasu a nifer o’r 6ed presennol a’r gorffennol yn hoff o hyn.

Llwyddiant dysgwyr wrth ennill lle mewn colegau a prifysgolion yn arbennig o’i gymharu a’r colegau

Sgiliau Cymraeg a llwyddiant dysgwyr sydd wedi gweld hi’n rhwydd symud ymlaen gyda gyrfa bod yn y Gymraeg neu Saesneg.

Ond dwi’n cael arian EMA os ydwi yn y Coleg!

Os wyt ti’n gymwys am arian EMA yna mi fyddai’n medru ei hawlio yma yn Ysgol Glan Clwyd hefyd!

Y Dyfodol i ti?

Os wyt ti’n gymwys am arian EMA yna mi fyddai’n medru ei hawlio yma yn Ysgol Glan Clwyd hefyd!

Fydd dy blant di yn dysgu ac yn siarad Cymraeg?

Pa mor aml fyddi di’n siarad y Gymraeg os ei di i sefydliad arall?

Mae nifer o oedolion yn nodi eu bod wedi colli hyder yn eu Cymraeg wrth adael ysgol yn 16 oed – be am dy ddyfodol di?

Helo, Julia ydw i, ac rwy’n gyn-ddisgybl Ysgol Glan Clwyd sydd nawr yn astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar gyfer lefel A, astudiais bioleg, cemeg, ffiseg, mathemateg a’r fagloriaeth, a ges i lawer o gefnogaeth gan yr holl staff, â oedd wir wedi cyfrannu at fy nghanlyniadau. Doeddwn i erioed yn teimlo fy mod i dan unrhyw anfantais yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, er fy mod i’n dod o gartref di-Gymraeg. Mewn gwirionedd, credaf fy mod i wedi dysgu yn well oherwydd roedd rhaid cyfiethu wrth astudio, oedd yn gwneud y wybodaeth yn fwy cofiadwy. Nawr yn y brifysgol, rwy’n gwneud yr ysgoloriaeth Coleg Cymraeg, felly rwy’n cael arian pob blwyddyn er mwyn gwneud 33% o’r cwrs yn y Gymraeg. Mae hyn yn elfen dwi wir yn mwynhau oherwydd mae’n caniatau i mi fod yn rhan o’r gymuned Gymraeg, ac mi roedd hi’n teimlo fel cam naturiol. Yn y tymor gyntaf, roedd cael darlithoedd yn Saesneg yn teimlo ychydig yn wahanol i’r arfer, ond doedd hi’n sicr ddim yn ormod o her, yn enwedig gyda help yr Ap Geiriaduron. Felly, i gloi, dwi’n sicr ddim yn difaru dal ati gyda’r addysg Gymraeg yn Ysgol Glan Clwyd, a credaf bod unrhyw rhwystrau wedi bod yn ddibwys o gymharu â’r holl fuddion.

Julia

Astudiais Daearyddiaeth, Mathemateg a Ffiseg ar gyfer fy lefel A, ac roedd rhain yn ddewision greddfol i mi, diolch i fy niddordeb yn y byd naturiol. Fel llawer o ddisgyblion Ysgol Glan Clwyd, Saesneg oedd iaith y cartref, ond ar ôl mwy na ddegawd o addysg Gymraeg, roedd gwneud fy Lefel A yn Gymraeg yn benderfyniad naturiol. Mi wnes i fwynhau fy nwy flynedd olaf yn Ysgol Glan Clwyd yn fawr; mae’r ysgol yn meithrin ymdeimlad o gymuned, ac roedd grŵp y chweched dosbarth yn enwedig yn agos iawn.

Ar ôl Lefel A, es ymlaen i astudio geoffiseg yn UCL yn Llundain, ac er yn heriol ar adegau, mae’r cwrs wedi bod yn profiad gwerthfawr iawn. Mae daeareg yn faes ymchwil-ddwys, ac rwyf wedi mwynhau cwblhau darnau o waith cwrs sydd yn gysylltiedig â brosiectau ymchwil, gan eu bod wedi teimlo’n berthnasol i’r ymchwil go iawn sy’n digwydd yn ein hadran daeareg yma yn UCL. Yn ddiweddar, cyflwynais fy nhraethawd hir, a mi wnes i fwynhau’r broses o’i ymchwilio a’i ysgrifennu. Wrth edrych yn ôl, roedd cwblhau y Fagloriaeth Gymreig yn ogystal â fy newisiadau Lefel A yn fanteisiol i mi wrth ddod at ysgrifennu prosiectau ymchwil yn y brifysgol, gan ei fod wedi rhoi profiad cynnar i mi o wneud gwaith ymchwil annibynnol. Roedd y broses o ysgrifennu darn mawr o waith yn y Gymraeg, gyda gwybodaeth yn dod yn bennaf o ffynonellau Saesneg, hefyd yn cyfle i ddatblygu fy sgiliau ymchwil, yn enwedig wrth gywain a chrynhoi darnau pwysig o wybodaeth o bapurau gwyddonol. I ddweud y gwir, ni allaf ddweud bod astudio fy Lefel A

yn y Gymraeg erioed wedi bod yn niweidiol i fy astudiaethau yma yn Llundain, oni bai am rhai achlysuron lle all fy ymennydd ond dod o hyd i air yn y Gymraeg, sydd wrth gwrs yn syndod i fy ffrindiau uniaeithog!

Fyddai’n graddio ar y ddiwedd y haf, ac rwy’n edrych ymlaen at dreulio amser yn Llundain lle fyddai ddim yn syllu ar sgrin fy nghyfrifiadur. Er hyn, rwy’n gobeithio y byddaf yn dychwelyd i’r byd academaidd yn weddol fuan i astudio am PhD mewn Daeareg.

Sam