Tywydd Garw

Mae adegau yn codi pan fydd angen anfon disgyblion adref o ganlyniad i dywydd garw. Pan fo hyn yn digwydd byddwn yn cyfathrebu gyda chi drwy School Gateway, sicrhewch bod eich manylion yn gyfredol.

Anfonir disgyblion sy’n teithio i’r ysgol ar fws / tacsi adref yn gynnar pan fo’r adran drafnidiaeth yn rhoi gwybod i’r ysgol bod angen anfon y bysiau adref yn gynnar i sicrhau diogelwch y disgyblion.

Pan fo hyn yn digwydd, gelwir y disgyblion sy’n teithio ar fysiau i mewn i’r Theatr.  Cyn rhoi caniatâd i’r disgyblion adael yr ysgol, gofynnir iddyn nhw roi gwybod i staff os oes unrhyw anawsterau h.y. pan nad oes unrhyw un gartref i’w derbyn.

Buasem yn ddiolchgar iawn pe baech yn trafod gyda’ch plant yr hyn yr hoffech iddyn nhw ei wneud pe bai angen eu hanfon adref o’r ysgol yn gynnar e.e.

  • y dylent ddychwelyd adref hyd yn oed os nad oes unrhyw un gartref ar y pryd
  • y dylent fynd i gartref taid a nain / cymydog / ffrind
  • y dylent fynd i’ch gweithle
  • y dylent gysylltu  â chi i dderbyn cyfarwyddiadau pellach.

Wrth gwrs, mae croeso i chi roi galwad ffôn i’r ysgol os ydych yn dymuno rhoi neges i’ch plentyn.

Os yr ydych wedi gwneud trefniadau preifat i gasglu eich plentyn/plant o’r ysgol, plîs rhowch wybod i ni yn bersonol yn y dderbynfa lle gofynnwn i chi lofnodi’r gofrestr. Rhaid i ni fod yn hollol ymwybodol o’r fath drefniadau.

Os yw’r ysgol yn cau yn gynnar neu os ydych yn ansicr a fydd yr ysgol ar agor y diwrnod canlynol dylech:

  • wrando ar Heart FM neu Radio Cymru (byddwn yn rhoi gwybod i’r gorsafoedd radio os yw’r ysgol ar gau); neu
  • ffonio’r ysgol ar 01745 582611; neu
  • edrych ar wefan Sir Ddinbych neu wefan yr ysgol.