Ymddiriedolaeth John Bennett Parry

Gall myfyrwyr o Ysgol Glan Clwyd sydd wedi cwblhau’r cwrs dwy flynedd Safon Uwch wneud cais i dderbyn cymorth ariannol er mwyn eu helpu i gael mynedfa i addysg bellach yn enwedig y myfyrwyr hynny o gefndir difreintiedig.

Gwobrwyo

Am wybodaeth ddiweddar ewch i https://jbp.cymru/

Meini Prawf Gwobrwyo

Gofynion y meini prawf er mwyn derbyn y grant;

  • Wedi gorffen Addysg Statudol (e.e. Blwyddyn 11) 2006 ymlaen.
  • Wedi cwblhau 2 flynedd o Addysg Lefel 3 (e.e. Safon Uwch neu gyfwerth) yn Ysgol Uwchradd Dinbych neu Ysgol Glan Clwyd.
  • Derbyn lle mewn Prifysgol neu Goleg Addysg Uwch i astudio lefel gradd, HND neu gwrs sylfaen sy’n arwain at radd neu gwrs HND.
  • Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu derbyn gan fyfyrwyr sy’n mynychu sefydliad addysgol lleol (e.e. Gogledd Cymru) ac yn byw o fewn i ffiniau Cyngor Cymuned
Sir DdinbychConwy
Cefn MeiriadogLlannefydd
TrefnantLlansannan
HenllanLlanfairtalhaearn
Dinbych
Nantglyn
Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch

Bydd y swm uchaf yn cael ei gwobrwy dros gyfnod o 4 blynedd o ddechrau’r cwrs mynediad i Brifysgol neu Goleg, ar wahân i eithriadau ac ar gyngor yr ymddiriedolwyr.

Bydd swm ychwanegol i’r brif wobr ar gael i fyfyrwyr oedd yn derbyn LAC yn ystod y ddwy flynedd diwethaf yn yr ysgol. Bydd swm y wobr ac unrhyw wobr ychwanegol i’w bennu gan yr ymddiriedolwyr.

Er mwyn gwneud cais ac am wybodaeth bellach ewch i https://jbp.cymru/