Cynllun Trochi
Dyma’r amser perffaith i ddechrau eich taith drwy addysg Gymraeg
Mae Ysgol Glan Clwyd yn cynnig cyfle i ddisgyblion sy’n siarad Saesneg ddysgu Cymraeg yn rhugl tra’n cael profi bywyd ysgol uwchradd yn llawn. Bydd eu siwrne yn Ysgol Glan Clwyd yn dechrau yn ystod hanner tymor olaf Blwyddyn 6 pan bydd disgyblion yn ymuno â ni am gwrs rhagarweiniol dwys er mwyn datblygu eu sgiliau yn y Gymraeg. Pe bai’r disgyblion yn dewis mynychu’r ysgol maent yn dilyn rhaglen arbennig gyflymedig ym mlwyddyn 7 ac 8 ac erbyn blwyddyn 9 byddant yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ochr yn ochr â’r disgyblion eraill.
Yn ystod eu hamser yn yr ysgol uwchradd, bydd y disgyblion yn derbyn eu haddysg gan amryw o athrawon pwnc sydd wedi derbyn hyfforddiant arbenigol mewn addysg ddwyieithog ac sy’n sensitif i’w anghenion fel dysgwyr.
Beth os nad yw fy mhlentyn yn siarad gair o Gymraeg?
Mae’r Cynllun Trochi wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer dysgwyr di-Gymraeg.Mae’r cwrs dwys ar ddiwedd blwyddyn 6 yn gyfle i ysgogi sgiliau iaith sylfaenol y disgyblion. Rydym yn adeiladu ar y sgiliau hyn o flwyddyn 7 ymlaen ymhob agwedd o fywyd yr ysgol.
Beth yw manteision y prosiect i fy mhlentyn?
Manteision tymor byr
- Gwella rhuglder yn y Gymraeg.
- Hyrwyddo’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.
- Datblygu sgiliau meddwl.
- Dechrau cefnogol i addysg uwchradd
- Dosbarthiadau llai o faint gydag athrawon arbennigol dwyieithog
- Cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau arallgyrsiol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Manteision hir-dymor
- Ystod ehangach o gyfleoedd yn y gweithle ar gyfer oedolion ifanc dwyieithog.
- Ymwybyddiaeth diwyllianol cryf
- Agor drysau i ddysgu mwy o ieithoedd
Sut fydd fy mhlentyn yn ymdopi gyda’r sefyllfa?
Mae gan yr ysgol brofiad helaeth mewn trochwyr sy’n derbyn mynediad hwyr i’r ysgol, rydym yn cadw golwg manwl ar ddatblygiad y disgyblion ynghyd â monitro cyson o berfformiad disgyblion. Mae’r ysgol yn defnyddio app “Dysgor” (Class Charts) sy’n galluogi i rieni a gwarcheidwyr fonitro ymddygiad a llwyddiannau disgyblion o ddydd i ddydd.
A fydd fy mhlentyn yn gallu cymdeithasu gyda disgyblion o’r brif ffrwd?
Yn bendant! Mae croeso cynnes i ddisgyblion y dosbarth Trochi fynychu pob gweithgaredd allgyrsiol sy’n cael ei gynnig gan yr ysgol. Mae ein disgyblion Trochi yn aelodau o’r timau rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd, yn canu yn corau, yn perfformio ar lwyfan yr Eisteddfod ac yn mynd i glybiau cinio.
Pryd fydd fy mhlentyn yn trosglwyddo i’r brif ffrwd?
Ym mlwyddyn 7, caiff y rhan fwyaf o wersi eu dysgu o fewn y dosbarth Trochi, gyda rhai gwersi yn cael eu dysgu mewn grwpiau cymysg gyda’r brif ffrwd. Yn ystod yr hanner tymor olaf ym mlwyddyn 7, bydd disgyblion yn ymuno â dosbarth cofrestru yn y brif ffrwd. Mae’r Cynllu Trochi yn gynllun dwy flynedd, ond gall ddisgyblion symud unrhyw amser yn ystod Blwyddyn 8 pan fyddant yn barod.
ESTYN 2022
Yn ystod arolwg ESTYN yn 2022, cafodd y Cynllun Trochi ei amlygu fel cryfder o fewn yr ysgol;
“Mae’r cynllun trochi sy’n cynorthwyo disgyblion sy’n trosglwyddo o addysg cyfrwng Saesneg yn hwyr iawn ddatblygu medrau Cymraeg disgyblion yn hynod effeithiol. Mae’r disgyblion yma yn derbyn cefnogaeth ac anogaeth werthfawr i sicrhau eu bod yn elwa’n llawn o gwricwlwm a bywyd yr ysgol.”
“Nodwedd arbennig o waith yr ysgol yw’r cynnydd cyflym a llwyddiannus a wna disgyblion sy’n trosglwyddo o addysg cyfrwng Saesneg yn hwyr yn eu medrau Cymraeg. Maent yn datblygu’n siaradwyr hyderus ac yn cynhyrchu gwaith ysgrifenedig estynedig sy’n eu galluogi i ymuno â’r prif lif yn gynnar yn eu bywyd ysgol.”
“Nodwedd hynod o waith yr ysgol yw’r modd y mae staff yn datblygu medrau Cymraeg disgyblion sy’n trosglwyddo o addysg cyfrwng Saesneg yn hwyr. Yn fuan iawn, mae’r disgyblion hyn yn datblygu’n siaradwyr rhugl yr iaith sydd yn medru astudio’r holl gwricwlwm drwy’r Gymraeg.”
Gwelir isod sylwadau gan y disgyblion, rhieni a staff sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect dros y blynyddoedd.
“Cyn dod i’r ysgol roeddwn i’n poeni am fod ar fy mhen fy hun oherwydd bod pawb arall yn siarad Cymraeg ond rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd”
“Ar y dechrau roedd fy rhieni yn poeni ond erbyn nawr maent yn hapus iawn fy mod yn yr ysgol hon”
“Does dim i’w golli. Ar ddiwedd y dydd mae gennych chi blentyn sy’n rhugl yn y Gymraeg”
“Mae hyn yn hollol newydd i mi. Mae’n anhygoel eu gweld yn datblygu a dysgu’r iaith mor rhwydd”
“Mae’n ail gyfle i ddewis addysg Gymraeg. Mae’n agor drysau newydd. Nid yn unig dysgu iaith newydd mae’r disgyblion maent hefyd yn cael eu cynnwys yn niwylliant Cymreig”
Menter Llywodraeth Cymru yw’r rhaglen trochi sy’n darparu disgyblion gydag ail gyfle i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol a datblygu’n berson dwyieithog hyderus. Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych yn cefnogi’r rhaglen trochi ac mae’n rhan o’r polisi cenedlaethol a’r awdurdod lleol.
Os hoffech drafod y cynllun ymhellach cysylltwch gyda’r Cydlynydd Cynllun Trochi, Mrs Llio Davies ar rif ffôn yr ysgol 01745 582611.