Derbyniadau
Cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol yw derbyniadau. Gweler yr holl wybodaeth am Dderbyniadau yma.
Trosglwyddo o ysgol uwchradd arall
Os yw eich plentyn yn trosglwyddo o ysgol uwchradd arall, rydym yn eich annog, os yn bosib, i gysylltu gyda’r ysgol yn y lle cyntaf er mwyn trefnu ymweliad gyda’r ysgol ac aelodau perthnasol o staff. Yn dilyn yr ymweliad mae’r canllawiau derbyniadau arferol ar wefan Sir Ddinbych.
Trosglwyddo o ysgol gynradd y tu allan i glwstwr Ysgol Glan Clwyd.
Rydym yn anfon gwahoddiadau i fynychu ein noson agored i ysgolion Clwstwr Glan Clwyd yn unig. Pe bai eich plentyn ddim yn mynychu un o’r ysgolion a restrir isod a bod gennych chi ddiddordeb mynychu Ysgol Glan Clwyd mae croeso mawr i chi ddod am dro i’n Noson agored a gynhelir ar y nos Iau cyntaf ym mis Hydref, yn ogystal cadwch lygad ar y papurau lleol a’n gwefan am fanylion pellach yn nes at yr amser.
Ysgolion Clwstwr Glan Clwyd:
Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl
Ysgol Y Llys, Prestatyn
Ysgol Twm o’r Nant, Dinbych
Ysgol Henllan, Henllan
Ysgol Tremeirchion, Tremeirchion
Ysgol Pant Pastynog, Prion
Cynllun Trochi Ysgol Glan Clwyd
Mae’r cynllun trochi ar gael ar hyn o bryd i ddisgyblion sy’n byw yn nhalgylch Ysgol Glan Clwyd sydd:-
- wedi cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Saesneg yn yr ysgol gynradd; a/neu
- yn hwyrddyfodiad i’r Iaith Gymraeg yn yr ysgol gynradd.
Cefnogir disgyblion sy’n dewis cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg o Flwyddyn 7 ymlaen trwy wersi Cymraeg dwys yn eu hysgol gynradd o fis Ionawr hyd at fis Mai i’r disgyblion sydd wedi dewis cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg o flwyddyn 7 ymlaen. Wedyn bydd y disgyblion yn treulio pum wythnos olaf y tymor yn Ysgol Glan Clwyd. Ym mlwyddyn 7 a 8, mae’r disgyblion yn dilyn y cwricwlwm cyfan trwy gyfrwng y Gymraeg gan dderbyn cefnogaeth lawn gan athrawon arbenigol. Erbyn diwedd Blwyddyn 8, y disgwyliad yw bydd y disgyblion yn gwbl ddwyieithog.
I bwrpas gordanysgrifio a chymhwyster cludiant, ystyrir bod y ddarpariaeth hon yn mynegi’r dewis ar gyfer addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.