Croeso
Mae Ysgol Glan Clwyd yn ysgol 11-18 oed gyda thraddodiad o ddarparu profiadau ac addysg cyfrwng Cymraeg o ansawdd i ddisgyblion gan eu paratoi i fod yn ddinasyddion dwy ieithog medrus ar gyfer ein cymuned ein hunain a thu hwnt. Hon oedd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yng Nghymru ac ymfalchiwn yn y fraint o ddatblygu plant ac oedolion ifanc 11-18 oed Sir Ddinbych i fod yn ddinasyddion cwbl ddwyieithog. Daw disgyblion atom o ardaloedd arfordirol hardd yng Ngogledd y sir ac o ardaloedd cefn gwlad prydferth. Pob un ohonynt gyda’u toreth o acenion Cymreig sydd yn cyfoethogi ein profiad o’n hiaith ac yn dathlu ein hamrywiaeth Cymreig o dan un to!
Diolch i'r criw yma o flwyddyn 10 am fod yn arweinwyr ac arwain ar ein prosiect gwella amgylchedd. Thanks to our team of boys from year 10 for being leaders and leading the way in our aim to improve the school environment. Diolch fechgyn! pic.twitter.com/1fo863XHp6