Blaenoriaethau
Ein Blaenoriaethau Ysgol 22-24
Yn dilyn yr arolwg Estyn diweddar yn nhymor yr Haf 2022 a’r argymhellion a roddwyd dyma flas ar ein blaenoriaethau ar gyfer y ddwy flynedd nesaf fel ysgol.
Rydym yn gweithredu’n effeithiol, effeithlon ac yn egniol ar y blaenoriaethau hyn yn awr ac yn awyddus i’n holl randdeiliaid fod yn rhan weithredol o’r broses barhaus sydd yn sicrhau’r addysg a’r profiadau gorau ar gyfer ein disgyblion. Credwn yn gryf nad yw’r gwaith byth wedi ei gyflawni’n llwyr a bod gwerthuso ein darpariaeth ac anelu’n uchel a gwella’n barhaus yn gylch di-dor.