Croeso gan y Pennaeth
Gyda phleser rwy’n cyflwyno’r wefan hon er mwyn i chi gael blas ar fywyd cyffrous teulu Ysgol Uwchradd Glan Clwyd.
Ysgol Glan Clwyd yw’r ysgol Gymraeg hynaf yng Nghymru ac fe’i sefydlwyd o ganlyniad i flaengaredd ac arloesedd trigolion yr ardal erbyn 1956. Mae gweledigaeth ein cydadau a’u sêl dros yr iaith a’i dyfodol yr un mor bwysig a pherthnasol i ni heddiw yn ein gwaith o ddydd i ddydd yn Ysgol Glan Clwyd.
Trysor i’w rhannu yw’r Gymraeg ac mae hyn yn cadarnhau ein gwir bwrpas fel ysgol wrth i ni sicrhau fod ein disgyblion yn ffynnu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ei pherchnogi hi’n llwyr yn rhan o’u hunaniaeth.
Erbyn hyn mae’r ysgol wedi hen ymgartrefu o fewn ei hadeilad newydd sydd yn llawn adnoddau gwych ac sydd yn ateb gofynion addysgol yr unfed ganrif ar hugain. Gwir lwyddiant y cyfnod o newid â fu yw fod dros fil o ddisgyblion bellach yn dilyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac mi fydd pob un yn gaffaeliad i ddyfodol Cymru a thu hwnt.
Meithrin Cymry blaengar yw ein nod a hynny mewn awyrgylch lle mae parch a charedigrwydd yn llywio ein hymwneud dyddiol gyda’n gilydd. Golyga hyn ein bod bob amser yn dod at ein gilydd fel teulu i gyflawni’r gorau ac i gefnogi ein gilydd. Er ein maint fel ysgol mae’r adnabyddiaeth creiddiol hwnnw o’n disgyblion yn allweddol ac mae ein staff gweithgar a gofalgar yn sicrhau fod y gefnogaeth orau ar gael ar bob achlysur.
Hyrwyddwn yn Ysgol Glan Clwyd y cyfrifoldeb hwnnw sydd yn dod o fod yn rhan o deulu arbennig ysgol fel hon gan ymroi i fod yn aelodau balch ac uchelgeisiol, creadigol a mentrus sy’n rhoi gwerth ar gadw’n iach.
Braf yw cael troi cefn ar gyfnod sydd wedi bod yn heriol iawn i gymdeithas a phob sefydliad addysgol yn sgil Covid ac edrych ymlaen i’r dyfodol yn hyderus.
Cyn cloi – hoffwn bwysleisio pa mor bwysig ydych chi i ni fel rhieni a pha mor allweddol yw eich cefnogaeth. Pan fo’r cydweithio hwnnw rhyngom ni fel ysgol a chithau fel rhieni ar ei orau – dyna pryd mae’r hud yn digwydd
Gyda’n gilydd gallwn lwyddo i sicrhau fod y blynyddoedd nesaf yn rhai llewyrchus, hapus a ffyniannus i bawb.