Cyfathrebu gyda’r Cartref
Mae’n hanfodol sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng yr ysgol a rhieni/gwarchodwyr wrth feithrin a datblygu ein disgyblion. Yn ystod y flwyddyn academaidd 2016/17 cyflwynwyd wasanaeth newydd o’r enw – ‘School Gateway’ er mwyn hwyluso hyn. Mae’n galluogi’r ysgol rannu gwybodaeth mewn dull effeithiol trwy e-bost, neges testun ac Ap ar y ffôn symudol.
Os ydych chi’n newydd i Ysgol Glan Clwyd yr unig beth sydd angen er mwyn dechrau eich cyfrif School Gateway yw eich cyfeiriad e-bost a rhif ffôn symudol. Wedyn:
NAILL AI
- Lawrlwytho’r ap School Gateway:
Os oes gennych ffôn symudol, lawrlwythwch School Gateway o’ch stôr ap (Android ac iPhone). Mae’r ap yn dangos yr un wybodaeth ac sydd ar y wefan YN OGYSTAL gallwch chi yrru neges i’r ysgol yn rhad ag am DDIM.
NEU
- Ewch i’r wefan – schoolgateway.com a chliciwch ‘Defnyddiwr Newydd’. Byddwch yn derbyn neges destun gyda rhif PIN. Defnyddiwch y rhif PIN er mwyn cofnodi i mewn i’r system School Gateway.
Er mwyn i’r system weithio’n effeithiol, bydd angen i chi wirio manylion cyswllt Priority 1 eich plentyn, isod. Os yw’r wybodaeth hon yn anghywir, byddwch mwy na thebyg yn cael anhawster mewngofnodi i’r ‘School Gateway’, felly mae hi’n hanfodol eich bod yn gwirio’r manylion.
Bydd yr e-byst a negeseuon yn cael eu gyrru i fanylion cyswllt Priority 1 yn unig, felly sicrhewch bod yr wybodaeth yn gywir.
E-byst
Rhowch y cyfeiriad e-bost canlynol: SC6634020a@schoolcomms.com, yn eich cyswllt e-bost er mwyn sicrhau bod yr e-bost yn cyrraedd eich blwch derbyn yn hytrach na’i farcio fel SPAM.
Negeseuon Testun SMS
Hefyd, rhowch y rhif ffôn canlynol: 01745 472048 yn eich ffôn symudol fel ‘Ysgol Glan Clwyd Txt’. Bydd hyn yn eich galluogi i adnabod gyrrwr y neges testun yn syth.
Os oes unrhyw anhawster cysylltwch gyda ni ar schoolcomms@ysgolglanclwyd.co.uk