Cyfleusterau
Ym mis Medi 2017, dechreuwyd y flwyddyn academaidd newydd yn yr adeilad newydd sbon yn dilyn prosiect gwerth £15.9 miliwn a ariennir ar y cyd gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru trwy ei Raglen Gyfalaf i sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Dechreuodd Willmott Dixon, contractwyr y datblygiad weithio ar y safle ym mis Tachwedd 2015.
Mae Ysgol Glan Clwyd yn hynod o falch o’n hysgol newydd sy’n dangos ymrwymiad i Addysg Cyfrwng Cymraeg o fewn yr awdurdod a’r ardal leol. Hyderwn y bydd rhieni/gwarchodwyr, darpar rieni/warchodwyr ynghyd â’r miloedd o ddisgyblion a fydd yn derbyn eu haddysg trwy ddrysau’r ysgol hon dros y blynyddoedd nesaf yn falch o’u hysgol hefyd.
Yn dilyn datblygiad yr ysgol a’i chyfleusterau arbennig sy’n ein galluogi i ddarparu disgyblion gydag addysg sy’n gweddu i’r 21ain Ganrif.
Mae’r cyfleusterau yn cynnwys:
Yr unig Gae Pob Tywydd 3G maint llawn yn y sir.
Caeau eang ar gyfer pêl-droed, rygbi ac athletau.
Ardal Gemau Defnydd Amrywiol sy’n cynnwys cyrtiau tenis, cyrtiau pêl-rwyd, cyrtiau pêl-fasged a chyrtiau pêl-law.
3 swît TGCh
1 swît Apple Mac
3 cabinet ipad
15 troli Gliniadur/Chromebook
Canolfan Ymchwil a Llyfrgell
Theatr pwrpasol
Stiwdio recordio
Stiwdio Drama, Cerddoriaeth a Chelf
6 labordy pwrpasol a 3 labordy arddangos
Gweithdy Dylunio a Thechnoleg newydd sbon
Ystafelloedd dysgu, Technoleg Bwyd
Canolfan 6ed Dosbarth sy’n cynnwys ardal gweithio penodol ar gyfer myfyriwyr y 6ed Dosbarth ac Ardal Gymdeithasol.
Cyfleusterau addysgu sy’n cynnwys dosbarthiadau mawr cyfforddus, ystafelloedd grwpiau llai ac ardaloedd i ddisgyblion weithio’n annibynnol.
Canolfan Anghenion Addysgol Ychwanegol sy’n cefnogi disgyblion o fewn awyrgylch cefnogol, pwrpasol
Ystafell fwyta fawr a golau sy’n cynnwys cyfleusterau arlwyo arbennig sy’n gweini brecwast, byrbrydau a chinio yn ddyddiol o 8:30yb tan 1:15yh