Cymreictod
Ysgol Glan Clwyd oedd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yng Nghymru – ac rydym wrth reswm yn parhau’n falch iawn o’r traddodiad hwnnw.
Mae’r Gymraeg yng nganol ein holl weithredu ac rydym yn ymfalchio ein bod yn datblygu cenedlathau newydd o blant a phobl ifanc yn Sir Ddinbhych sy’n hyderus ac yn rhugl yn y ddwy iaith. Rydym yn gwbl ymrwymedig yn Ysgol Glan Clwyd i fod yn weithredol wrth weithio tuag at darged Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Yma, yn ein mysg, bydd disgyblion yn cael profi cymdeithas Gymreig sydd â’r Gymraeg yn ganolog ac yn galon i holl weithgarwch yr ysgol yn addysgol, yn allgyrsiol ac yn gymdeithasol.
Datblygu hunaniaeth Gymreig ein disgyblion a’u gwerthfawrogiad o bopeth Cymraeg yw ein blaenoriaeth. Codwn y llen ar ddiwylliant, traddodiad a hanes ein gwlad. Hyderwn yn fawr y bydd y disgyblion hwythau yn rhoi bri ar eu treftadaeth Gymreig ac y byddant yn angerddol dros ddatblygu’r Gymru fodern drwy chwarae rhan allweddol fel unigolion yn ei dyfodol hi.
O fod yn rhan o deulu Ysgol Glan Clwyd mae rhywun yn gwneud y dewis cyffrous i arddel y Gymraeg, ei pharchu a’i defnyddio. Mae’r penderfyniad hwn yn golygu ymlyniad, dyfalbarhad a brwdfrydedd er mwyn datblygu’n unigolyn blaengar dwyieithog sydd â chymaint mwy i’w gynnig i gymdeithas yn yr unfed ganrif ar hugain. Yn bennaf oll ein nod wrth reswm yw meithrin plant a phobl ifanc gyda balchder yn eu Cymraeg a’u Cymreictod.
Cynllun Trochi Ysgol Glan Clwyd