Dysgu Cyfunol

Yn Ysgol Glan Clwyd, credwn fod cyfathrebu yn allweddol, ac felly mae’r wefan hon wedi’i chreu fel dull o gefnogaeth i rieni / gofalwyr a disgyblion yn ystod cyfnodau o ddysgu o bell. Yn gynwysedig mae llawer o fideos, dogfennau ac awgrymiadau defnyddiol i’ch tywys trwy’r hyn sy’n ymddangos fel y cwestiynau / anawsterau mwyaf cyffredin. Bydd y wefan yn cael ei diweddaru yn ôl yr angen. Gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i chi.