Gwaith Cartref

Pwrpas gwaith cartref ydy gwirio gwybodaeth a dealltwriaeth y disgyblion a pharatoi ar gyfer dysgu yn y dosbarth. Defnyddir gwaith cartref i gefnogi a datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth y disgyblion gan ddatblygu’n ddysgwyr annibynnol.

Google Classroom

Gosodir gwaith cartref gan ddefnyddio Google Classroom, sy’n galluogi rhieni/gwarcheidwaid i weld y tasgau a osodir. Mae’r system yn hawdd i’w defnyddio ac yn eich galluogi i weld y tasgau yn ogystal â thasgau sydd heb eu cwblhau gan eich mab/merch. I gael arweiniad pellach, cyfeiriwch at y wefan cymorth i rieni gan ddefnyddio’r ddolen honl: 

https://sites.google.com/ysgolglanclwyd.co.uk/cymorth-ddigidol-ygc/cymraeg/google-ar-gyfer-addysg

Neu gallwch gysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol drwy schoolcomms@ysgolglanclwyd.co.uk