Blog Y Pennaeth
Gweithio o Gartref
Ar ddechrau wythnos waith arall go wahanol, hoffwn gyflwyno fy mlog cyntaf fel Pennaeth Ysgol Glan Clwyd. Fy mwriad, yn y cyhoeddiadau hyn, fydd cadw cysylltiad gyda chymuned yr ysgol ac yn ehangach, rhannu ychydig o wybodaeth a cheisio cynnig ychydig o oleuni i rai mewn cyfnod sydd mor dywyll ar hyn o bryd. Yn amlwg bydd cyd-destun addysgol i lawer o’r cynnwys ond hefyd bydd argraffiadau cyffredinol, yn ogystal ag ymdrech i rannu gwybodaeth a chyngor. Nid oes unrhyw fwriad i wamalu na lleihau difrifoldeb y sefyllfa yn y wlad ar hyn o bryd – rwy’n ymwybodol iawn o’r her aruthrol sy’n wynebu pob un ohonom – ond fy mwriad fydd cadw’r cyfraniadau’n gadarnhaol. Hoffwn bwysleisio hefyd mai fy marn a’m safbwyntiau personol i fydd yn cael eu mynegi.
Peth rhyfedd i mi, fel i filiynau eraill ar hyn o bryd, yw’r syniad o weithio o gartref. Mae ysgolion yn gymunedau bywiog a chymdeithasol sy’n cynnig cysur a chefnogaeth i bawb o fewn y gymuned honno, mewn cymaint o ffyrdd gwahanol. Rhyfedd iawn yw gweithio fel pennaeth ysgol o swyddfa gartref, bron i awr i ffwrdd o’r ysgol. Ond hyderaf y gall cymdeithas yn y pen draw ddod trwy’r argyfwng hwn yn gryfach, yn fwy gwydn ac yn fwy egwyddorol. Mae argyfwng yn cadarnhau rhinweddau ac yn dangos i ni mor bwysig yw cymdeithas a theulu, ac mae gweld cymdeithas yn tynnu at ei gilydd i geisio goresgyn yr argyfwng hwn yn gysur ac yn obaith i mi.
Fel y gwyddom erbyn hyn bydd hwn yn gyfnod estynedig o bryder felly mae’n bwysig ein bod yn paratoi ar gyfer hynny – yn paratoi ar gyfer marathon nid gwib. Ond eto mae’n bwysig ein bod o’r cychwyn yn gadarnhaol a pheidio gadael i ni ein hunain lithro i arferion drwg a diog.
Ar lefel bersonol i ddisgyblion, fel i oedolion sy’n gweithio gartref, mae hi mor bwysig i osod trefn ar ddiwrnod. Efallai na fyddwn yn gadael y tŷ i fynd i’r gwaith neu’r ysgol ar hyn o bryd, ond mae’n bwysig ein bod yn rhoi strwythur i’r diwrnod gwaith. Hoffwn gynghori ein disgyblion i ddilyn amserlen dwt. Mae angen deffro a chodi o’r gwely’n brydlon a dilyn rhaglen sy’n rhoi cydbwysedd da er mwyn galluogi pob un ohonom i fod yn iach o gorff ac yn iach o feddwl. Yn wir, fe welwch y bydd honno’n thema gyson gen i. Bod yn iach o gorff a meddwl ddylai ein blaenoriaeth fod bob amser, ond yn sicr mewn cyfnod fel hwn dylid sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y materion hyn.
O fewn eich rhaglen ddiwrnod sicrhewch amseroedd estynedig a phriodol ar gyfer gwaith ysgol. Sicrhewch amser ar gyfer ymlacio a chymdeithasu hefyd, trwy gysylltu gyda ffrindiau neu deulu. Yn yr un modd sicrhewch eich bod yn diffodd y teclynnau am gyfnodau da bob dydd. I rai mae byw a bod ar declynnau digidol yn demtasiwn – felly unwaith eto mae’n bwysig cael trefn a chydbwysedd, ac mae hynny’n golygu amseroedd heb sgrîn o’ch blaen. Sicrhewch eich bod yn neilltuo amser penodol i fod yn symud yn gorfforol. Caniateir un ymarfer corff yn ddyddiol yn yr awyr agored ar hyn o bryd, ond mae ffyrdd eraill i warantu ffitrwydd hefyd. Cofiwch y cewch dreulio amser amhenodol yn yr ardd os yn briodol. Sicrhewch eich bod yn cynllunio amseroedd yn ystod y diwrnod ysgol i gael egwyl a chinio – a gwnewch bob ymdrech i fwyta’n iach yn y cyfnod hwn. Mwynhewch gwmni’r teulu yn y cartref gyda chi – ar adeg fel hyn mae pwysigrwydd teulu yn amlwg i ni. Sicrhewch eich bod yn bwyta yng nghwmni eich gilydd a pheidio cilio i ystafelloedd ar eich pen eich hun trwy’r dydd.
Ond fy neges yn syml ar hyn o bryd yw gwneud y pethau bychain yn iawn. Bwriadaf fanylu ychydig yn y blog nesaf am y syniad creiddiol o fod yn iach o gorff ac o feddwl. Ond am y tro, o’m swyddfa bell, hoffwn ddymuno’n dda i bob un ohonoch. Byddwch gyfrifol – byddwch ddiogel.
Gwyn Tudur
Pennaeth