Gwybodaeth Gyrfa

Cefnogir yr ysgol gan Swyddog Gyrfa Cymru (dau ddiwrnod yr wythnos). Cynhelir cyfweliadau gyrfa gydag unigolion o flwyddyn 9 ac 11 yn bennaf er mwyn rhoi cymorth iddynt gynllunio eu camau nesaf. Cynhelir nifer o weminarau i rannu gwybodaeth am gyfleoedd prentisiaethau. Rhoddir cyfle i ddisgyblion CA4 a CA5 fynychu ffeiriau gyrfa a phrifysgolion ynghyd a chael sesiynau gan siaradwyr gwadd yn yr ysgol.

Cynhelir Noson Ddewisiadau ar gyfer Blwyddyn 9 ac 11 yn Nhymor y Gwanwyn ble cyflwynir gwybodaeth am bynciau CA4 a CA5.