Blog Y Pennaeth
Iach o gorff ac iach o feddwl
Yn y cyfnod dyrys hwn gobeithiaf fod pob un ohonoch yn cadw’n ddiogel. Mae ysgolion erbyn hyn wrth gwrs yn newid eu ffocws yn ddyddiol, ac erbyn hyn yn cynnig cefnogaeth a gofal i blant gweithwyr allweddol, yn ogystal â chynnig parhad addysg i weddill cymuned yr ysgol. Hoffwn ddiolch i bawb o fewn cymuned YGC am wneud hyn yn bosib, a hoffwn ddiolch i’r holl weithwyr allweddol hwythau am eu hymdrechion glew mewn cyfnod mor heriol. Ailadroddaf yma gyngor diweddaraf a chyson Iechyd cyhoeddus Cymru:
Y camau pwysicaf y gallwn ni i gyd eu cymryd wrth ymladd Coronafeirws yw aros gartref er mwyn amddiffyn y GIG ac achub bywydau.
Rydym yn gwybod y gall aros gartref fod yn anodd, ac rydym am ddiolch i bawb ym mhob rhan o Gymru am wneud eu rhan i helpu i arafu lledaeniad y feirws.
Yn fy mlog cyntaf yr wythnos hon, soniais am y pwysigrwydd o gydbwysedd mewn bywyd ar hyn o bryd; ac o fod yn aros gartref, mae hi’n bwysig ein bod yn cael strwythur a chydbwysedd i’n diwrnod.
Yn gyntaf hoffwn bwysleisio pwysigrwydd ymarfer corff ac awyr iach. Rwy’n annog fy mam fy hun, yn ei hwythdegau, i gerdded llwybr yr ardd gefn yn ddyddiol. Rwy’n gwthio fy mhlant hwythau wedyn, sydd yn eu harddegau, i wneud mwy nag un ymarfer corff bob dydd – un yn yr awyr iach a’r llall yn y tŷ. Mae cymaint o lwyfannau bellach i hyrwyddo ymarfer corff cyfrifol. Beth bynnag eich oedran, defnyddiwch yr hyrwyddwyr hyn. Mae Rae Carpenter ar sianel Youtube Ffit Cymru am 9 o’r gloch bob bore yn ystod yr wythnos yn cynnal sesiwn rhagorol. Ac wrth gwrs alla’i ddim gorffen sôn am ffitrwydd yn y cartref heb grybwyll sesiynau hynod boblogaidd Joe Wicks. Mae’r sesiynau hyn ar sianel Youtube The Body Coach yn cael sylw eithriadol ar hyn o bryd gyda 2 filiwn o bobl yn ei ddilyn. Yn bersonol, rwyf i’n ffodus ar hyn o bryd fy mod yn gallu neilltuo cyfnod byr bob gyda’r nos ar fy meic, a thrwy hynny hyrwyddo fy llesiant corfforol a meddyliol. Ond beth bynnag eich llwyfan, beth bynnag eich lefel ffitrwydd, cofiwch mai bod yn gorfforol weithredol a sicrhau awyr iach yw’r flaenoriaeth – a gwneud hynny mewn modd cyfrifol a diogel wrth gwrs.
Ond yn union fel mae ymarfer corff yn bwysig yn y cyfnod hwn, mae ymarfer yr ymennydd hefyd yn allweddol, a hynny nid yn unig o ran gwaith a gwaith ysgol. Rwyf felly’n annog pawb, beth bynnag ein hoedran, i fod yn wybyddol fywiog yn ogystal â bod yn gorfforol brysur. Ac i mi, heb swnio’n rhy hen-ffasiwn, mae un gweithgaredd amlwg y gallem i gyd ei wneud o ran pleser, sy’n ysgogi’r meddwl yr un pryd – a hynny yw darllen. Yn ystod y cyfnod digynsail hwn mae gan nifer fawr o bobl yn awr amser y gellir ei neilltuo, heb declyn digidol, ar gyfer ymlacio trwy ddarllen. Bydd hyn yn llesol o ran yr ymennydd ac o ran ymlacio. Yn bersonol rwyf wrth fy modd gyda theimlad llyfrau, eu gwedd, hyd yn oed eu harogl! Ond rwy’n euog iawn hefyd o brynu llyfrau ac yna eu hesgeuluso a’u gadael heb eu darllen yng nghanol prysurdeb arferol bywyd. Dyma’r cyfle euraid i ail-ymweld â’r llyfrau sydd heb eu darllen ar y silffoedd neu’n sy’n hel llwch ar y bwrdd coffi. Yn sicr iawn byddai’n fuddiol yn ymenyddol ac o ran ymlacio i bob un ohonom neilltuo amser bob dydd i ddarllen er pleser.
Ac mewn rhaglen gytbwys strwythuredig – gyda gwyliau Pasg go wahanol ar y gorwel – does dim o’i le ar ambell i loddest o wylio ffilmiau neu gyfres ar Netflix ychwaith. Fel plentyn doeddwn i ddim yn cytuno pan oedd fy rhieni’n pregethu mai cymedroldeb ym mhopeth oedd yr allwedd. Ond mae hynny’n gwbl wir ar adeg fel hyn wrth gwrs.
Felly yng nghanol eich rhaglen drefnus a’ch cymedroldeb sicrhewch eich bod yn neilltuo amser digonol i lesiant corfforol a meddyliol. Ymarfer corff a darllen amdani! Yn fwy na dim – byddwch gyfrifol, byddwch ddiogel.
Gwyn Tudur
Pennaeth