Lles
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein dysgwyr i gael y dechrau gorau posib i’w bywydau a chreu profiadau cadarnhaol o addysg uwchradd.
Ein prif amcan yw diogelu pobl ifanc a hyrwyddo ac amddiffyn eu lles emosiynol a chymdeithasol. Credwn fod plentyn hapus yn llawer mwy tebygol o lwyddo a ffynnu.
Mae maethu iechyd meddwl da, ynghŷd â iechyd corfforol da yn cael ei ystyried flaenoriaeth yma yn Ysgol Glan Clwyd.
Rydym yn ymfalchïo yn y gefnogaeth fugeiliol sydd yma yn Ysgol Glan Clwyd, ac yn hyderus bod y gefnogaeth bwrpasol yn ei le. Mae gennym drefn effeithiol o gyd-weithio efo asiantaethau allanol sydd yn ein cefnogi gydag ein dysgwyr, yn sicrhau bod pob plentyn yn derbyn yr un gefnogaeth.
Pwy yw Pwy?
Dirprwy Bennaeth Lles a Chyfranogiad sydd yn gyfrifol am oruchwylio ac arwain holl waith cefnogi disgyblion a chyd-lynu cysylltiadau gydag asiantaethau allanol.
Pennaeth Cynorthwyol sydd yn gyfrifol am gefnogi disgyblion o grwpiau bregus a chydweithio gydag asiantaethau allanol perthnasol. Y Pennaeth Cynorthwyol yw swyddog diogelu plant yr ysgol. (Gweler diogelu Linc)
Arweinwyr Cynnydd – Mae gan pob blwyddyn yn yr ysgol Arweinydd Cynnydd, prif ffocws yr arweinwyr cynnydd yw monitro a thracio cyrhaeddiad ac ymdrechion y dysgwyr sydd yn eu gofal. Yr arweinydd Cynnydd sydd yn gofalu am ddatblygiad academaidd y disgyblion. Maent hefyd yn gyswllt cartref ar gyfer y disgyblion sydd yn eu gofal.
Swyddogion Lles a chynhwysiad – Mae gan pob blwyddyn yn yr ysgol swyddog wedi ei gysylltu â hi. Prif ffocws y rôl yma yw cefnogi’r dysgwyr gydag unrhyw agwedd o fywyd yr hoffent gefnogaeth ag o. Maent yn anogwyr dysgu sydd yn cefnogi gyda gwaith ysgol yn ogystal a chefnogi lles y dysgwyr. Maent hefyd yn gyswllt cartref, ac yn cyd-weithio yn agos gyda’r arweinwyr cynnydd ac asiantaethau allanol.
Cyd-Lynydd ADY – Os oes gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol, mae’r Cyd-lynydd ADY yn gyfrifol am gefnogi a llunio cynllun datblygu unigol (CDU). Bydd y CADY yn cyd-weithio yn agos efo rhieni ac asiantaethau allanol er mwyn sicrhau’r ddarpariaeth orau posib i’r dysgwyr. Bydd cymorthyddion dosbarth yn cefnogi lle bo’n briodol ac addas.
Tiwtoriaid Dosbarth – Bydd pob plentyn yn mynychu cyfnod cofrestru am 20 munud pob bore gyda’u tiwtor dosbarth. Yma bydd perthnasau pwysig yn cael eu sefydlu a llawer iawn o waith cefnogi yn foesol, emosiynol ac yn academaidd yn digwydd ynghyd a rhannu prif negeseuon a diweddaru dysgwyr am unrhyw agwedd o fywyd ysgol.
Cyd-Lynydd ABCH – Mae pob disgybl yn derbyn Addysg Bersonol a Chymdeithasol, rôl y cyd-lynydd yw sicrhau bod cynnwys y gwersi yn bwrpasol ac yn cefnogi anghenion y cwricwlwm a disgyblion Ysgol Glan Clwyd.
Asiantaethau Allanol – Er mwyn sicrhau’r gefnogaeth o’r radd orau i’ch plentyn, byddwn yn cyd-weithio gydag amrywiaeth o asiantaethau allanol. Gall y rhain ein cefnogi ni a’r teuluoedd i ddelio efo sefyllfaoedd sydd yn codi yn y modd mwyaf priodol. Rydym yn ymfalchïo yn y berthynas arbennig sydd gennym gydag asiantaethau cefnogol.