Llywodraethwyr
Mae corff llywodraethu’r ysgol yn cynnwys rhieni, llywodraethwyr cymunedol, llywodraethwyr yr awdurdod lleol, staff a myfyrwyr. Gyda’n gilydd, ein rôl yw helpu i lywio cyfeiriad a chymeriad cyffredinol yr ysgol, monitro cynnydd a safonau, adolygu a chadarnhau’r gyllideb, penodi a chefnogi’r Pennaeth a’r uwch dîm, adolygu polisïau a gweithdrefnau a sicrhau bod yr ysgol yn cyflawni ei dyletswyddau statudol.
Prif rôl Llywodraethu yw goruchwylio llwyddiant yr ysgol, wrth gytuno ar flaenoriaethau a monitro cynnydd er mwyn cyflawni llwyddiant. Mae derbyn cyfrifoldeb fel llywodraethwr Ysgol Glan Clwyd yn gofyn am ddarparu cefnogaeth adeiladol a her i arweinwyr a rheolwyr i’w galluogi i wneud eu gwaith hyd eithaf eu gallu.
Rydym yn cwrdd yn rheolaidd ac mae llywodraethwyr o’r tu allan hefyd yn ymweld â’r ysgol, gan gysylltu â gwahanol adrannau a mynychu digwyddiadau a pherfformiadau. Rydym ni fel Llywodraethwyr bob amser yn awyddus i glywed barn aelodau o’n cymuned gan gynnwys rhieni a myfyrwyr.
Gwelir isod restr o’n llywodraethwyr, ar hyn o bryd mae seddi gwag ar ein Corff Llywodraethol, os oes gennych ddiddordeb ymuno gyda’n tîm llywodraethol cysylltwch gydag ein Clerc ar y manylion cyswllt
Enw Yn cynrychioli
Mrs Gwenan Prysor (Cadeirydd) Cymunedol
Mr Iwan Evans Awdurdod Lleol
Mr Gwyn Tudur Pennaeth
Mrs Heledd Jones Rhieni
Mrs Kathryn Jones Rhieni
Mrs Nicola Chan Gizzi Rhieni
Mr David Lloyd Rhieni
Mr Peter Roberts Rhieni
Mrs Delwen Harper Rhieni
Mr Iorwerth Roberts Cymunedol
Mr Dewi Owens Cymunedol
Mr John Roberts Cymunedol
Gwag Cymunedol
Mrs Gwawr Cordiner Awdurdod Lleol
Gwag Awdurdod Lleol
Gwag Awdurdod Lleol
Mrs Lara Roberts Staff (Addysgu)
Mr David L Williams Staff (Addysgu)
Mrs Dona Jones Staff (Cefnogaeth)
Prif Ddisgyblion
Prif Ddisgyblion
Gweler isod ddyddiadau cyfarfodydd Llywodraethwyr ar gyfer 2019-2020
Cyfarfodydd Llawn
13/10/20
08/12/20
23/02/21
27/04/21
06/07/21
Cyfarfodydd yr Is-Bwyllgorau
24/11/20
01/12/20
16/03/21
23/03/21
08/06/21
15/06/21
I gysylltu a’r Llywodraethwyr, anfonwch e bost i sylw’r Clerc i ysgol.glanclwyd@sirddinbych.gov.uk