Nosweithiau Rhieni

Mae nosweithiau rhieni yn ddigwyddiad pwysig sy’n galluogi rhieni a gwarchodwyr i drafod cynnydd eu plentyn, i rannu pryderon, a chymryd rhan weithgar yn eu haddysg. Mae mynychu nosweithiau rhieni yn rhoi neges bwysig i’r plentyn a’r ysgol bod gennych ddiddordeb ym mywyd ac addysg ysgol eich plentyn.

Pa mor aml y cynhelir Nosweithiau Rhieni?

Mae cyfle i fynychu noson rieni yn flynyddol, hefyd mae cyfle i chi fynychu nosweithiau gwybodaeth ar gyfer blwyddyn 9, 10 ac 11. Rydym yn cynnal noson agored blynyddol i ddarpar deuluoedd ar y dydd Iau cyntaf ym mis Hydref.

A allaf fynychu heb rybudd?

Na, anfonir llythyr yn electroneg atoch chi cyn y noson rieni er mwyn i chi ddewis pa athrawon hoffech chi gyfarfod, yn dilyn hyn byddwch chi yn derbyn amserlen i’w dilyn.

Pa mor hir yw pob apwyntiad?

Er mwyn sicrhau bod pob rhiant yn cael cyfle i drafod cynnydd eu plentyn, mae’r apwyntiadau wedi’u cyfyngu hyd at 5 munud. Os bydd angen i chi drafod cynnydd eich plentyn mewn mwy o fanylder efallai y bydd angen i chi drefnu amser cyfleus arall.

Cyn i chi fynychu Noson Rhieni, mae’n syniad da gwneud rhestr o gwestiynau yr hoffech eu gofyn.

Gall y rhain gynnwys: –

  • Cryfderau fy mhlentyn?
  • Pa gymorth mae o/hi angen?
  • Sut gallwn ni fod o gymorth yn y cartref?
  • Sut gall fy mhlentyn helpu ei hun i wella?
  • Beth maen nhw’n ei ddysgu ac ar ba lefel dealltwriaeth disgwylir iddynt fod?
  • Ydy o/hi yn gofyn cwestiynau neu ymuno mewn sgyrsiau dosbarth?

Pwyntiau eraill i’w trafod

  • Gofynnwch i gael gweld rhai enghreifftiau o waith eich plentyn.
  • Ewch drwy eu hadroddiad ysgol.
  • Os yw eich plentyn ar y Gofrestr Anghenion Ychwanegol gofynnwch am gael gweld copi o’u Cynllun Addysg Unigol (CAU)

COFIWCH! COFIWCH!

  • Mae’n syniad da cael sgwrs gyda’ch plentyn cyn i chi fynychu noson rieni er mwyn rhannu unrhyw bryderon neu anawsterau gyda staff yr ysgol.
  • Mae’n bwysig rhoi adborth i’ch plentyn. Canmol eu llwyddiant a chefnogi ac annog os bydd angen iddynt weithio’n galetach.
  • Mae cydweithredu a chyfathrebu agos rhwng y cartref a’r ysgol yn hollbwysig wrth sicrhau’r gefnogaeth orau ar gyfer eich plentyn.
  • Does dim rhaid i chi aros tan y Noson Rieni i drafod cynnydd eich plentyn – gwnewch apwyntiad.