Blog Y Pennaeth
O enau plant bychain…..
A hithau ‘n ddiwedd yr hyn a ddylai fod yn wyliau Pasg ar gyfer ysgolion Cymru, mae ein ffocws unwaith eto fel ysgolion ar gynnig cefnogaeth i’n dysgwyr a’u teuluoedd, yn ystod y cyfnod tywyll a chwbl ddigynsail hwn.
Ddoe roedd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi datganiad polisi newydd o ran parhad dysgu – ‘Cadw’n Ddiogel. Dal ati i Ddysgu’. Braf yw gweld y pwyslais canolog yma o hyd ar iechyd a lles corfforol a meddyliol ein dysgwyr a’n gweithlu addysg, tra’n sicrhau ein bod yn cefnogi’r dysgwyr hynny i barhau i ddysgu.
Ond er ein dyletswydd ni fel arweinwyr addysg yng Nghymru i gynnal a hybu llesiant ein dysgwyr ifanc, weithiau rydym ninnau hefyd angen hwb a chodi calon ar adeg mor ddyrys. Mae’n rhaid i mi gyfaddef mai o enau plant bychain y daeth yr hwb hwn i mi!
Wrth feicio ychydig yn lleol dros y Pasg roedd fy nghalon yn codi wrth weld paentiadau a negeseuon gobaith plant y fro. Roedd rhai ohonynt yn weithiau celf o safon, yn gelfydd ac yn ddeheuig eu harddull, ac eraill yn amrwd ac yn ddinod. Ond yr hyn a oedd yn tywynnu trwy’r cyfan oedd diffuantrwydd a phositirwydd ieuenctid. Roedd lliwiau’r enfys ym mhob man i godi calon, a ‘diolch’ oed y gair amlycaf i’w weld. Roedd y dywediadau Cymraeg wedyn yn rhai o optimistiaeth a oedd yn fynegiant o obaith ein plant a’n pobl ifanc mewn cyfnod anodd a thywyll iawn.
Ni allaf orffen fy nhraethu yma heb gyfeirio at rai enghreifftiau o’r hen ymadroddion hyn o obaith ifanc. Y mwyaf cyffredin a’r ffefryn sy’n crisialu gobaith ein pobl ifanc wrth gwrs oedd:
Daw eto haul ar fryn.
Roeddwn i’n arbennig yn hoffi neges a welais wrth gyrraedd un pentref bychan, neges a oedd yn crynhoi ysbryd gymunedol a chyfeillgar pobl ifanc:
Ar wahân ond gyda’n gilydd.
Ac yn sicr ni ellir dadlau gyda doethineb y geiriau gobeithiol a welais mewn llythrennau hyderus ar baentiad arall yr un diwrnod:
Wedi storom daw enfys.
Yn ystod y cyfnod hwn hefyd roeddem ni’n Ysgol Glan Clwyd yn cysylltu’n uniongyrchol gyda’n dysgwyr ifanc er mwyn gofalu am eu diogelwch a’u llesiant. Ac unwaith eto, fe’m trawyd gan ysbryd gobeithiol, diniwed ac optimistaidd ein plant a’n pobl ifanc. Dwi’n gobeithio’n fawr y caf faddeuant am ddyfynnu’n gryno a di-enw o ambell un o’r negeseuon hyn. Unwaith eto ddisgyblion Glan Clwyd – diolch!
Mae diniweidrwydd bendigedig yng ngeiriau’r disgybl hwn sy’n disgrifio ei fywyd ar hyn o bryd i’w bennaeth blwyddyn:
Dwi wedi bod yn cadw yn dda iawn diolch. Rydw i wedi bod yn trio dysgu sut i wneud hud a lledrith hefo cardiau ac dangos hynny i fy nheulu. Rydyn ni wedi bod yn mynd i gerdded un awr y dydd ac heddiw, roedden wedi mynd wrth yr afon lle roedd cerrig mawr felly trion ni adeiladu pont gerrig efo’r cerrig mwyaf oedd yno.
Gwahanol ond yr un mor nodweddiadol o ddycnwch teuluoedd ein hardal a gobaith ein ieuenctid yw’r neges canlynol hefyd:
Mae mam yn gweithio gartref felly mae hi yma bob dydd gyda ni, ond mae’n rhaid I fy nhad fynd i’r gwaith, sy’n peri ychydig o bryder. Ond pan mae dad yn dod adre rydyn ni yn chwarae gemau bwrdd, sy’n llawer o hwyl a chawson ni dwrnamaint dartiau heddiw fel teulu!
Ac roedd diweddglo neges un disgybl hŷn yn nodweddiadol o ddiffuantrwydd ein hieuenctid:
Gobeithio y byddwch chi’n llwyddo i aros yn brysur ac yn ddiogel. Hoffwn fod yn ôl yn yr ysgol gan fy mod yn ei cholli a phawb yno.
Felly wrth i ni gychwyn yn swyddogol ar dymor yr haf yn yr ysgol, gyda chynifer o bethau pwysig angen ein sylw brys – yn raddio arholiadau teg ar gyfer dysgwyr hŷn yr ysgol, yn arweiniad eglur a theg i ddysgwyr Blynyddoedd 10 a 12 sy’n parhau mewn ychydig o limbo ar hyn o bryd – mae gwrando ar eiriau doeth ein pobl ifanc yn sicr o’n cynnal a rhoi gwên ar yr wyneb. O eiriau plant bychain…..!
Gwyn Tudur
Pennaeth