Rhaglenni Dysgu

Sicrhewn ein bod yn gwerthuso ein Rhaglenni Dysgu yn gyson fel ymateb i  Lais y Dysgwr a’u profiadau hwy ar lawr y dosbarth. Mae’r Rhaglenni wedi eu dylunio er mwyn rhoi sylw i sgiliau dysgu’r disgyblion ynghyd a’u sgiliau trawsgwricwlaidd yng nghyd-destun y pynciau gwahanol. Maent yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu’r sgiliau sydd yn bwysig ar gyfer byd gwaith a dysgu gydol oes. Mae’r Rhaglenni Dysgu yn ymateb i ddiwygiadau’r Cwricwlwm yng Nghymru gan bwysleisio 4 diben addysg Cwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus sef datblygu dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.

cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith

dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd,unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Mae ein Rhaglenni Dysgu newydd wedi eu seilio ar HYDER – yn sicrhau fod disgyblion yn cael eu herio a bod tasgau sydd yn ymrwymo disgyblion ac yn dyfnhau eu meddyliau. Bydd rol-fodelu  disgwyliadau uchel yn bwysig ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol ac fe gredwn yn gryf fod yr agweddau hyn  wrth gynllunio yn cael effaith cadarnhaol  ar ddysgu ein disgyblion.