Taliadau ar-lein
System taliadau ar-lein yr ysgol yw ParentPay sy’n eich galluogi i wneud taliadau ar-lein trwy gerdyn credyd a debyd. Gallwch chi hefyd dalu mewn arian parod yn y siop leol mewn PayPoint.
Beth mae ParentPay yn wneud?
- Eich galluogi i dalu am dripiau ac eitemau eraill megis gwersi cerddoriaeth.
- yn cynnig safle talu diogel.
- Yn rhoi hanes yr holl daliadau sydd wedi eu prosesu.
- Yn eich galluogi i gyfuno cyfrif os oes gennych fwy nag un plentyn yn yr ysgol.
- Yn dangos holl eitemau sydd ar gael sy’n berthnasol i’ch plant.
- Yn e-bostio taleb o’ch taliadau i’r cyfeiriad e-bost rydych chi wedi’i gofrestru.
Sut mae ParentPay yn eich helpu?
- Yn rhoi rhyddid i chi wneud taliad i’r ysgol pryd a ble bynnag yr hoffech chi.
- Yn stopio’r angen i ysgrifennu siec neu edrych am arian parod i yrru i’r ysgol.
- Yn rhoi tawelwch meddwl bod eich taliad yn ddiogel.
- Yn helpu gyda chyllideb; taliadau sydyn, does dim aros am sieciau i glirio.
- Gellir gwneud taliadau am dripiau mwy fesul tipyn hyd nes y dyddiad talu terfynol
- Mae ParentPay yn sydyn a hawdd i’w ddefnyddio
Sut mae ParentPay yn helpu’r ysgol?
- Yn lleihau amser gweinyddol a dreulir ar brosesau bancio.
- Yn cadw cofnod manwl o daliadau i bob gwasanaeth i bob plentyn.
- Ni fydd taliadau yn cael eu gwrthod
- Lleihau ‘gwastraff’ papur.
- Yn galluogi ad-daliad hawdd a sydyn yn ôl i’r cerdyn.
- Yn gwella cyfathrebu rhwng yr ysgol a rhieni sy’n ymwneud â thaliadau.
- Yn cynnig proses casglu taliad mwy effeithiol, gan leihau swm o arian sydd ar safle’r ysgol.
Yn anffodus nid ydym bellach yn derbyn arian parod na sieciau fel dull talu, os yw hyn yn achosi unrhyw anhawsterau cysylltwch gyda’r ysgol.
Os hoffech chi wybodaeth bellach e-bostiwch parentpay@ysgolglanclwyd.co.uk neu ffoniwch yr ysgol ar 01745 582611