Trosglwyddo Bl.6 2021/22

Mae trosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd yn gyfnod cyffrous iawn yng ngyrfa pob plentyn, ond eto rydym yn ymwybodol fod pryderon yn bodoli hefyd. Fel arfer byddwn yn Ysgol Glan Clwyd yn cynnig rhaglen cefnogi gynhwysfawr er mwyn cynorthwyo disgyblion Blwyddyn 6 i drosglwyddo atom i Flwyddyn 7 – ond eleni, am resymau amlwg, yn anffodus mae’n rhaid i ni newid ein cynlluniau.

Credwn yn gryf felly fod cyfathrebu gyda chi yn fel rhieni a gofalwyr yn allweddol er mwyn sicrhau trosglwyddo esmwyth i’ch plentyn i fywyd teuluol Ysgol Glan Clwyd. Y nod felly yw eich diweddaru’n gyson ar y dudalen hon drwy rannu gwybodaeth gyda chi mewn sawl cyfrwng.

Efallai nad ydym ni am gwrdd wyneb yn wyneb yn y dyfodol agos ond mae cael eich croesawu atom ni yn y dull rhithiol hwn yn gam pwysig at sefydlu’r berthynas bwysig hon rhyngom

Islaw mae dolen fydd yn eich harwain at safwe Trosglwyddo Blwyddyn 6 – o dan eich pwysau eich hunain gallwch  wylio’r amryw o glipiau ffilm a’r wybodaeth a rennir.

Tasg 1 “Taith Trosglwyddo” (Iechyd a Lles)

Tasg 2 “Taith Trosglwyddo” (Celf) 

Tasg 3 “Taith Trosglwyddo” (Cerdd)

Tasg 4Dewch i Ymweld â Chymru”