Bwyd Ysgol
Fel ysgol, mae ein prydau bwyd yn cael eu darparu’n allanol gan Wasanaeth Prydau Ysgol Sir Ddinbych. Mae Sir Ddinbych yn ymrwymedig i fwyta’n iach ac yn cyd-weithio gydag ysgolion i hyrwyddo iechyd a lles disgyblion. Gwelir mwy o wybodaeth ar eu gwefan Denbighshire School Meals.
Mae’r ysgol yn gweini bwyd mewn ffreutur, gyda phrisiau gwahanol ar gyfer amrywiaeth o brydau ac eitemau.
Talu am fwyd ysgol
Nid yw’r ffreutur na’r ysgol yn defnyddio arian parod – yn hytrach mae’r disgybl yn dewis eu bwyd a mynd at y til, lle mae aelod o staff yn mewnbynnu’r hyn mae’r disgybl wedi’i ddewis ac mae’r swm yn cael ei dynnu yn awtomatig o’u cyfrif. Hefyd, mae’r disgybl yn gallu cael cip olwg ar eu cyfrif wrth y til. Caiff y disgyblion eu hadnabod gan fiometreg, trwy eu hôl bys. Byddwch chi wedi derbyn y wybodaeth hon ym mhecyn gwybodaeth ar ddechrau blwyddyn 7.
ParentPay yw’r dull gorau a mwyaf diogel o dalu am fwyd ysgol, wrth ddefnyddio’r system gallwch chi weld yr hyn mae eich plentyn yn bwyta o ddydd i ddydd! Mae disgyblion hefyd yn gallu rhoi arian yn eu cyfrif trwy ddefnyddio Unedau Ailbrisiad electronig, sydd wedi eu gosod yn y ffreutur. Nid yw’r ffreutur yn derbyn sieciau.
Pecyn Bwyd
Mae croeso i ddisgyblion ddod â phecyn bwyd, ond rydym yn annog rhieni a disgyblion i wneud dewisiadau iach.
Storio pecyn bwyd
Cadwch y pecyn bwyd yn oer – i osgoi gwenwyn bwyd.
Dylai Bocs Bwyd gael ei gadw’n oer – yn ddelfrydol defnyddiwch focs bwyd wedi’i inswleiddio gyda phecyn rhew neu garton o ddiod wedi rhewi i’w gadw’n oer. Os ydych chi’n paratoi eich brechdanau’r noson gynt, cofiwch eu storio yn yr oergell dros nos. Peidiwch ag anghofio cadw eich pecyn bwyd yn oer yn yr ysgol!
Prydau ysgol am ddim
Pwy sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim?
Gallwch chi wneud cais am brydau ysgol am ddim i’ch plentyn os ydych chi’n derbyn un o’r canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith; yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chefnogaeth; yn berthnasol i incwm
- Credyd Pensiwn; Gwarant Credyd
- Credyd Treth Plant (ond dim credyd treth gwaith) gydag incwm blynyddol is na £16,190
- Cymorth Rhan VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
Nid yw plant maeth yn gymwys am brydau bwyd am ddim. Mae rhieni maeth yn derbyn lwfans am edrych ar ôl y plentyn.
Sut i hawlio prydau bwyd am ddim?
I wneud cais am brydau bwyd ysgol am ddim, cwblhewch y ffurflen gais ar-lein. Wrth ddychwelyd eich ffurflen wedi’i gwblhau, mae’n ofynol i chi gynnwys tystiolaeth eich bod yn derbyn un o’r budd-daliadau uchod. Gall hyn fod un ai llythyr diweddar gan yr Asiantaeth Budd-daliadau neu Wasanaeth Pensiwn, neu lythyr hysbysiad o’ch Credyd Treth Plant diweddar gan Gyllid y Wlad.
Mae gwybodaeth bellach ar y wefan yma