Grant Datblygu Disgyblion (G.D.D)
Datganiad o fwriad.
Dau o 5 addewid ein hysgol ni yw ein bod yn ‘creu awyrgylch diogel er mwyn i bob disgybl ffynnu’ ac yn ‘driw i’n tîm’. Golyga hyn yn syml ein bod i gyd yma yn gydradd a chyda’r hawl i deimlo yn ddiogel ac yn aelodau gwerthfawr o deulu’r ysgol. Mae’r grant hwn yn sicrhau ein bod yn gallu cyflawni hyn hyd eithaf ein gallu.
Mae perthynas dda yn sail i bopeth yma ac oherwydd hynny byddwn yn adnabod anghenion ein disgyblion. Ein nod yw sicrhau ein bod yn rhoi’r cyfleon gorau, yn atal unrhyw rwystr i gynnydd ac yn gweld posibiliadau yn ddyddiol i sicrhau ffyniant ein disgyblion.
Bydd y grant hwn yn :
· Sicrhau fod teuluoedd disgyblion GDD yn teimlo eu bod yn rhan werthfawr o fywyd yr ysgol a bod eu cynnydd a’u ffyniant nhw yn bwysig i ni fel cymuned
· Sicrhau fod pontio effeithiol i ddisgyblion GDD o’e ysgolion clwstwr cynradd i ysgol Glan Clwyd
· Sicrhau darpariaeth fydd yn galluogi disgyblion GDD i gynyddu eu medrau rhifedd a llythrennedd
· Sicrhau fod ymgysylltiad disgyblion GDD a’u haddysg yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau’r posibiliadau gorau mewn bywyd
· Sicrhau fod sgiliau sylfaenol bywyd wedi eu cryfhau drwy ddulliau amgen