Diogelu
Y Tîm Diogelu
Person Diogelu Dynodedig: – Mr Ian Roberts (Pennaeth Cynorthwyol)
Dirprwyon Berson Diogelu Dynodedig: Mr Arwel Davies (Dirprwy Bennaeth) a Mrs Catherine Jones (Arweinydd Cynnydd Bl12 a13)
Llywodraethwraig Diogelu Dynodedig: Mrs Vicky Allen
Lle Arall i Gael Cymorth?
Atgyfeirio
Os ydych chi’n bryderus am les neu ddiogelwch plentyn, cysylltwch â:
Gwasanaeth Plant, Sir Dinbych
01824 712200: Dydd Llun i Ddydd Iau, 9am i 5pm a Dydd Gwener, 9am i 4.30pm
0345 053 3116: gyda’r nos a phenwythnosau
Gallwch chi hefyd anfon e-bost at cfsgateway@denbighshire.gov.uk
Heddlu: 101, 999
Childline: 0800 1111
www.childline.org.uk
Pryd fydd plentyn mewn perygl?
Dylech gysylltu â ni os byddwch yn teimlo fod plentyn angen ei ddiogelu. Os byddwch yn teimlo fod plentyn yn dioddef niwed, esgeulustod neu gamdriniaeth, gallwn ymchwilio a chymryd camau i ddiogelu’r plentyn.
Mae sawl math o gamdriniaeth, gan gynnwys:
Camdriniaeth gorfforol: e.e. taro, ysgwyd, llosgi neu sgaldio, gwenwyno bwriadol, mygu neu niweidio plentyn yn gorfforol mewn unrhyw ffordd arall.
Camdriniaeth emosiynol: e.e. dweud wrth blentyn eu bod yn ddiwerth neu fod neb yn eu caru, yn eu bychanu, achosi iddynt deimlo’n ofnus, neu ofyn iddynt wneud rhywbeth nad yw’n rhesymol ar gyfer eu hoedran.
Camdriniaeth rywiol: e.e. annog neu orfodi plentyn i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhywiol amhriodol. Gall hyn gynnwys cyswllt corfforol neu ddangos deunydd pornograffig i blentyn.
Esgeulustod: e.e. methiant i ddarparu digon o fwyd, cynhesrwydd, diogelwch, sylw meddygol, addysg neu ysgogiad meddyliol.
Does dim rhaid i chi roi eich enw, ond mae’n help mawr i ni os ydych chi. Os yw’n well gennych, ni fyddwn yn rhoi eich enw i’r plentyn a’i deulu.
Does dim angen i chi wybod popeth am y plentyn a beth sy’n digwydd. Mae’r ffaith eich bod yn poeni, neu’n teimlo fod rhywbeth o’i le, yn ddigon.