Llywodraethwyr

Mae corff llywodraethu’r ysgol yn cynnwys rhieni, llywodraethwyr cymunedol, llywodraethwyr yr awdurdod lleol, staff a myfyrwyr. Gyda’n gilydd, ein rôl yw helpu i lywio cyfeiriad a chymeriad cyffredinol yr ysgol, monitro cynnydd a safonau, adolygu a chadarnhau’r gyllideb, penodi a chefnogi’r Pennaeth a’r uwch dîm, adolygu polisïau a gweithdrefnau a sicrhau bod yr ysgol yn cyflawni ei dyletswyddau statudol.

Prif rôl Llywodraethu yw goruchwylio llwyddiant yr ysgol, wrth gytuno ar flaenoriaethau a monitro cynnydd er mwyn cyflawni llwyddiant. Mae derbyn cyfrifoldeb fel llywodraethwr Ysgol Glan Clwyd yn gofyn am ddarparu cefnogaeth adeiladol a her i arweinwyr a rheolwyr i’w galluogi i wneud eu gwaith hyd eithaf eu gallu.

Rydym yn cwrdd yn rheolaidd ac mae llywodraethwyr o’r tu allan hefyd yn ymweld â’r ysgol, gan gysylltu â gwahanol adrannau a mynychu digwyddiadau a pherfformiadau. Rydym ni fel Llywodraethwyr bob amser yn awyddus i glywed barn aelodau o’n cymuned gan gynnwys rhieni a myfyrwyr.

Gwelir isod restr o’n llywodraethwyr, ar hyn o bryd mae seddi gwag ar ein Corff Llywodraethol, os oes gennych ddiddordeb ymuno gyda’n tîm llywodraethol cysylltwch gydag ein Clerc ar y manylion cyswllt.

 

EnwYn cynrychioli
Ms Vicky Allen (Cadeirydd / Chair)Cyngor Sir
Mrs Jaqcueline Feak (Is-Gadeirydd / Vice-Chair)Cymunedol
Mrs Sian AlwenPennaeth
Dr Kathryn JonesCymunedol
Mr Geraint Madoc-JonesCymunedol
Mr John RobertsCymunedol
Mrs Einir DaviesCymunedol
Mrs Nicola Chan GizziRhiant
Mr Owain RobertsRhiant
Mrs Hayley SprakeRhiant
Mrs Elin Gwynedd RobertsRhiant
Mrs Nathalie ThomasRhiant
Mrs Manon Ress-O'BrienRhiant
Mr Conor Charlton-FlemingStaff Addysgu
Mr Joe StoneleyStaff Addysgu
Mrs Nia Brady Staff Ategol
Prif Ddisgyblion (x2)Disgyblion

I gysylltu a’r Llywodraethwyr, anfonwch e bost i sylw’r Clerc i ysgol.glanclwyd@sirddinbych.gov.uk